Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, |
| 2 |
| Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw. |
| 3 |
| A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr ARGLWYDD chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd. |
| 4 |
| Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib. |
| 5 |
| A phan ddygo'r ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a'r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn. |
| 6 |
| Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i'r ARGLWYDD. |
| 7 |
| Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau. |
| 8 |
| A mynega i'th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr ARGLWYDD i mi pan ddeuthum allan o'r Aifft, y gwneir hyn. |
| 9 |
| A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr ARGLWYDD yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD dydi allan o'r Aifft. |
| 10 |
| Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn. |
| 11 |
| A phan ddygo yr ARGLWYDD di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a'i rhoddi i ti, |
| 12 |
| Yna y neilltui i'r ARGLWYDD bob cyntaf‐anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr ARGLWYDD fyddant. |
| 13 |
| A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf‐anedig o'th feibion a bryni di hefyd. |
| 14 |
| A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aifft, o dŷ y caethiwed. |
| 15 |
| A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o'm meibion a brynaf. |
| 16 |
| A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr ARGLWYDD ni allan o'r Aifft. |
| 17 |
| A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr ARGLWYDD hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd DUW, Rhag i'r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft. |
| 18 |
| Ond DUW a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft. |
| 19 |
| A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, DUW a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi. |
| 20 |
| A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch. |
| 21 |
| A'r ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i'w harwain ar y ffordd; a'r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos. |
| 22 |
| Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dân y nos, o flaen y bobl. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/013.mp3
40
13