Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i'r bobl i yfed. |
| 2 |
| Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr ARGLWYDD? |
| 3 |
| A'r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o'r Aifft, i'n lladd ni, a'n plant, a'n hanifeiliaid, â syched? |
| 4 |
| A Moses a lefodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Beth a wnaf i'r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a'm llabyddiant i. |
| 5 |
| A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda. |
| 6 |
| Wele, mi a safaf o'th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo'r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel. |
| 7 |
| Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A ydyw yr ARGLWYDD yn ein plith, ai nid yw? |
| 8 |
| Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim. |
| 9 |
| A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen DUW yn fy llaw. |
| 10 |
| Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn. |
| 11 |
| A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf. |
| 12 |
| A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a'i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a'r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul. |
| 13 |
| A Josua a orchfygodd Amalec a'i bobl â min y cleddyf. |
| 14 |
| A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd. |
| 15 |
| A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi. |
| 16 |
| Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o'r ARGLWYDD, y bydd i'r ARGLWYDD ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/017.mp3
40
17