Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai. |
| 2 |
| Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd. |
| 3 |
| A Moses a aeth i fyny at DDUW: a'r ARGLWYDD a alwodd arno ef o'r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; |
| 4 |
| Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y'ch dygais ataf fi fy hun. |
| 5 |
| Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear. |
| 6 |
| A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma'r geiriau a leferi di wrth feibion Israel. |
| 7 |
| A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo. |
| 8 |
| A'r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr ARGLWYDD. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr ARGLWYDD. |
| 9 |
| A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo'r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i'r ARGLWYDD. |
| 10 |
| Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad, |
| 11 |
| A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr ARGLWYDD yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai. |
| 12 |
| A gosod derfyn i'r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i'r mynydd, neu gyffwrdd â'i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â'r mynydd a leddir yn farw. |
| 13 |
| Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano'r utgorn yn hirllaes, deuant i'r mynydd. |
| 14 |
| A Moses a ddisgynnodd o'r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad. |
| 15 |
| Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd. |
| 16 |
| A'r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll. |
| 17 |
| A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod â DUW; a hwy a safasant yng ngodre'r mynydd. |
| 18 |
| A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o'r ARGLWYDD arno mewn tân: a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr. |
| 19 |
| Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a DUW a atebodd mewn llais. |
| 20 |
| A'r ARGLWYDD a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr ARGLWYDD Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny. |
| 21 |
| A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i'r bobl; rhag iddynt ruthro at yr ARGLWYDD i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt. |
| 22 |
| Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr ARGLWYDD; rhag i'r ARGLWYDD ruthro arnynt. |
| 23 |
| A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef. |
| 24 |
| A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a'r bobl, i ddyfod i fyny at yr ARGLWYDD; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy. |
| 25 |
| Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/019.mp3
40
19