×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Exodus 25

1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Dywed wrth bobl Israel am ddod ag offrwm i mi, a derbyniwch oddi wrth bob un yr offrwm y mae'n ei roi o'i wirfodd.
3
Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;
4
sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
5
crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
6
olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
7
meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
8
Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
9
Yr ydych i'w wneud yn unol 'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
10
"Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
11
Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
12
Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
13
Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14
a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15
Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16
yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17
Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
18
gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
19
Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
20
Y mae dwy adain y cerwbiaid i fod ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; y mae'r cerwbiaid i wynebu ei gilydd, 'u hwynebau tua'r drugareddfa.
21
Yr wyt i roi'r drugareddfa ar ben yr arch, a rhoi yn yr arch y dystiolaeth y byddaf yn ei rhoi i ti.
22
Yno byddaf yn cyfarfod thi, ac oddi ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerwb sydd ar arch y dystiolaeth, y byddaf yn mynegi iti yr holl bethau yr wyf yn eu gorchymyn i bobl Israel.
23
"Yr wyt i wneud bwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder,
24
a'i oreuro ag aur pur drosto, a gwneud ymyl aur o'i amgylch.
25
Gwna ffrm o led llaw o'i gwmpas, a chylch aur o amgylch y ffrm.
26
Yr wyt hefyd i wneud ar ei gyfer bedair dolen aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
27
Bydd y dolennau sydd ar ymyl y ffrm yn dal y polion sy'n cludo'r bwrdd.
28
Yr wyt i wneud y polion a fydd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
29
Gwna lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; yr wyt i'w gwneud o aur pur.
30
Yr wyt i roi'r bara gosod ar y bwrdd o'm blaen yn wastadol.
31
"Gwna ganhwyllbren o aur pur. Y mae gwaelod y canhwyllbren a'i baladr i'w gwneud o ddeunydd gyr, ac y mae'r pedyll, y cnapiau a'r blodau i fod yn rhan o'r cyfanwaith.
32
Bydd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
33
Ar un gainc bydd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyma fydd ar y chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
34
Ar y canhwyllbren ei hun, bydd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt,
35
a bydd un o'r cnapiau dan bob pr o'r chwe chainc sy'n dod allan o'r canhwyllbren.
36
Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
37
Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.
38
Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.
39
Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.
40
Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn l y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau