×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Exodus 27

1
"Gwna allor sgwr o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder.
2
Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti.
3
Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tn, pob un ohonynt o bres.
4
Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith.
5
Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor.
6
Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt.
7
Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.
8
Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.
9
"Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;
10
bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
11
Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.
12
Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, deg colofn a deg troed.
13
Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.
14
Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, thair colofn a thri throed,
15
a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, thair colofn a thri throed.
16
Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.
17
Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.
18
Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.
19
Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.
20
"Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid.
21
Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau