Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma'r pethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eu gwneuthur. |
| 2 |
| Chwe diwrnod y gwneir gwaith; ar y seithfed dydd y bydd i chwi ddydd sanctaidd, Saboth gorffwys i'r ARGLWYDD: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno. |
| 3 |
| Na chyneuwch dân yn eich holl anheddau ar y dydd Saboth. |
| 4 |
| A Moses a lefarodd wrth holl gynulleidfa meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, |
| 5 |
| Cymerwch o'ch plith offrwm yr ARGLWYDD: pob un ewyllysgar ei galon dyged hyn yn offrwm i'r ARGLWYDD; aur, ac arian, a phres, |
| 6 |
| A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, |
| 7 |
| A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, |
| 8 |
| Ac olew i'r goleuni, a llysiau i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd, |
| 9 |
| A meini onics, a meini i'w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. |
| 10 |
| A phob doeth ei galon yn eich plith, deuant a gweithiant yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD; |
| 11 |
| Y tabernacl, ei babell‐len a'i do, ei fachau a'i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a'i forteisiau, |
| 12 |
| Yr arch, a'i throsolion, y drugareddfa, a'r wahanlen, yr hon a'i gorchuddia, |
| 13 |
| Y bwrdd, a'i drosolion, a'i holl lestri, a'r bara dangos, |
| 14 |
| A chanhwyllbren y goleuni, a'i offer, a'i lampau, ac olew y goleuni, |
| 15 |
| Ac allor yr arogl‐darth, a'i throsolion, ac olew yr eneiniad, a'r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i'r tabernacl, |
| 16 |
| Allor y poethoffrwm a'i halch bres, ei throsolion, a'i holl lestri, y noe a'i throed, |
| 17 |
| Llenni'r cynteddfa, ei golofnau, a'i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa, |
| 18 |
| Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a'u rhaffau hwynt, |
| 19 |
| A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt. |
| 20 |
| A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses. |
| 21 |
| A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd. |
| 22 |
| A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a'r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a'r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i'r ARGLWYDD. |
| 23 |
| A phob un a'r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a'u dygasant. |
| 24 |
| Pob un a'r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i'r ARGLWYDD: a phob un a'r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a'i dygasant. |
| 25 |
| A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â'i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main. |
| 26 |
| A'r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr. |
| 27 |
| A'r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i'w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg; |
| 28 |
| A llysiau, ac olew i'r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i'r arogl‐darth peraidd. |
| 29 |
| Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai'r ARGLWYDD trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i'r ARGLWYDD offrwm ewyllysgar. |
| 30 |
| A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, galwodd yr ARGLWYDD erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda: |
| 31 |
| Ac a'i llanwodd ef ag ysbryd DUW, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith; |
| 32 |
| I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, |
| 33 |
| Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint. |
| 34 |
| Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan. |
| 35 |
| Efe a'u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/035.mp3
40
35