Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr doeth o galon, y rhai y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd a deall ynddynt, i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cysegr, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD. |
| 2 |
| A Moses a alwodd Besaleel ac Aholïab, a phob gŵr celfydd, y rhoddasai yr ARGLWYDD gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesáu at y gwaith i'w weithio ef. |
| 3 |
| A chymerasant gan Moses yr holl offrwm a ddygasai meibion Israel i waith gwasanaeth y cysegr, i'w weithio ef. A hwy a ddygasant ato ef ychwaneg o offrwm gwirfodd bob bore. |
| 4 |
| A'r holl rai celfydd, a'r oedd yn gweithio holl waith y cysegr, a ddaethant bob un oddi wrth ei waith, yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur. |
| 5 |
| A llefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Y mae'r bobl yn dwyn mwy na digon er gwasanaeth i'r gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei wneuthur. |
| 6 |
| A Moses a roes orchymyn; a hwy a barasant gyhoeddi trwy'r gwersyll, gan ddywedyd, Na wnaed na gŵr na gwraig waith mwy tuag at offrwm y cysegr. Felly yr ataliwyd y bobl rhag dwyn mwy. |
| 7 |
| Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i'r holl waith i'w wneuthur, a gweddill. |
| 8 |
| A'r holl rai celfydd, o'r rhai oedd yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddeg llen o liain main cyfrodedd, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaethant hwynt. |
| 9 |
| Hyd un llen oedd wyth gufydd ar hugain; a lled un llen pedwar cufydd: yr un mesur oedd i'r holl lenni. |
| 10 |
| Ac efe a gydiodd bum llen wrth ei gilydd; ac a gydiodd y pum llen eraill wrth ei gilydd. |
| 11 |
| Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar ei chwr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llen arall, yng nghydiad yr ail. |
| 12 |
| Deg dolen a deugain a wnaeth efe ar un llen, a deg dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwr eithaf i'r llen ydoedd yng nghydiad yr ail: y dolennau oedd yn dal y naill len wrth y llall. |
| 13 |
| Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau aur, ac a gydiodd y naill len wrth y llall â'r bachau; fel y byddai yn un tabernacl. |
| 14 |
| Efe a wnaeth hefyd lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: yn un llen ar ddeg y gwnaeth efe hwynt. |
| 15 |
| Hyd un llen oedd ddeg cufydd ar hugain, a lled un llen oedd bedwar cufydd: a'r un mesur oedd i'r un llen ar ddeg. |
| 16 |
| Ac efe a gydiodd bum llen wrthynt eu hunain, a chwe llen wrthynt eu hunain. |
| 17 |
| Efe a wnaeth hefyd ddeg dolen a deugain ar ymyl eithaf y llen yn y cydiad; a deg dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl y llen yng nghydiad yr ail. |
| 18 |
| Ac efe a wnaeth ddeg a deugain o fachau pres, i gydio y babell‐len i fod yn un. |
| 19 |
| Ac efe a wnaeth do i'r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf. |
| 20 |
| Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl o goed Sittim, yn eu sefyll. |
| 21 |
| Deg cufydd oedd hyd ystyllen; a chufydd a hanner cufydd lled pob ystyllen. |
| 22 |
| Dau dyno oedd i'r un ystyllen, wedi eu gosod mewn trefn, y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl ystyllod y tabernacl. |
| 23 |
| Ac efe a wnaeth ystyllod i'r tabernacl; ugain ystyllen i'r tu deau, tua'r deau. |
| 24 |
| A deugain mortais arian a wnaeth efe dan yr ugain ystyllen: dwy fortais dan un ystyllen i'w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i'w dau dyno. |
| 25 |
| Ac i ail ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, efe a wnaeth ugain ystyllen, |
| 26 |
| A'u deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. |
| 27 |
| Ac i ystlysau'r tabernacl, tua'r gorllewin, y gwnaeth efe chwech ystyllen. |
| 28 |
| A dwy ystyllen a wnaeth efe yng nghonglau'r tabernacl i'r ddau ystlys. |
| 29 |
| Ac yr oeddynt wedi eu cydio oddi tanodd; ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl. |
| 30 |
| Ac yr oedd wyth ystyllen; a'u morteisiau oedd un ar bymtheg o forteisiau arian: dwy fortais dan bob ystyllen. |
| 31 |
| Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i ystyllod un ystlys i'r tabernacl, |
| 32 |
| A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod y tabernacl i'r ystlysau o du'r gorllewin. |
| 33 |
| Ac efe a wnaeth y bar canol i gyrhaeddyd trwy'r ystyllod o gwr i gwr. |
| 34 |
| Ac efe a osododd aur dros yr ystyllod, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur, i fyned am y barrau; ac a wisgodd y barrau ag aur. |
| 35 |
| Ac efe a wnaeth wahanlen o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnaeth efe hi. |
| 36 |
| Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn o goed Sittim, ac a'u gwisgodd hwynt ag aur; a'u pennau oedd o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian. |
| 37 |
| Ac efe a wnaeth gaeadlen i ddrws y tabernacl o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith edau a nodwydd; |
| 38 |
| A'i phum colofn, a'u pennau; ac a oreurodd eu pennau hwynt, a'u cylchau, ag aur: ond eu pum mortais oedd o bres. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/036.mp3
40
36