×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Exodus 37

1
Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
2
Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.
3
Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
4
Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,
5
a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
6
Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.
7
Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,
8
a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
9
Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, 'u hwynebau tua'r drugareddfa.
10
Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.
11
Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.
12
Gwnaeth ffrm o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffrm.
13
Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
14
Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.
15
Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
16
Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.
17
Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.
18
Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
19
Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
20
Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;
21
ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob pr o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
22
Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
23
Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.
24
Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.
25
Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
26
Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.
27
Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.
28
Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.
29
Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau