Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| Ac efe a wnaeth allor y poethoffrwm o goed Sittim: o bum cufydd ei hyd, a phum cufydd ei lled, yn bedeirongl; ac yn dri chufydd ei huchder. |
| 2 |
| Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl: ei chyrn hi oedd o'r un; ac efe a'i gwisgodd hi â phres. |
| 3 |
| Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, a'r cigweiniau, a'r pedyll tân: ei holl lestri hi a wnaeth efe o bres. |
| 4 |
| Ac efe a wnaeth i'r allor alch bres, ar waith rhwyd, dan ei chwmpas oddi tanodd hyd ei hanner hi. |
| 5 |
| Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwr yr alch bres, i fyned am drosolion. |
| 6 |
| Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a'u gwisgodd hwynt â phres. |
| 7 |
| Ac efe a dynnodd y trosolion trwy'r modrwyau ar ystlysau yr allor, i'w dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod. |
| 8 |
| Ac efe a wnaeth noe bres, a'i throed o bres, o ddrychau gwragedd, y rhai a ymgasglent yn finteioedd at ddrws pabell y cyfarfod. |
| 9 |
| Ac efe a wnaeth y cynteddfa: ar yr ystlys deau, tua'r deau, llenni'r cynteddfa oedd o liain main cyfrodedd, o gan cufydd: |
| 10 |
| A'u hugain colofn, ac a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau, o arian yr oeddynt. |
| 11 |
| Ac ar du'r gogledd, y llenni oedd gan cufydd; eu hugain colofn, a'u hugain mortais, o bres: a phennau'r colofnau a'u cylchau o arian. |
| 12 |
| Ac o du'r gorllewin, llenni o ddeg cufydd a deugain: eu deg colofn, a'u deg mortais, a phennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian. |
| 13 |
| Ac i du'r dwyrain tua'r dwyrain yr oedd llenni o ddeg cufydd a deugain. |
| 14 |
| Llenni o bymtheg cufydd a wnaeth efe o'r naill du i'r porth; eu tair colofn, a'u tair mortais. |
| 15 |
| Ac efe a wnaeth ar yr ail ystlys, oddeutu drws porth y cynteddfa, lenni o bymtheg cufydd; eu tair colofn, a'u tair mortais. |
| 16 |
| Holl lenni'r cynteddfa o amgylch a wnaeth efe o liain main cyfrodedd. |
| 17 |
| A morteisiau'r colofnau, oedd o bres; pennau'r colofnau, a'u cylchau, o arian; a gwisg eu pennau, o arian; a holl golofnau'r cynteddfa oedd wedi eu cylchu ag arian. |
| 18 |
| A chaeadlen drws y cynteddfa ydoedd waith edau a nodwydd o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd; ac yn ugain cufydd o hyd, a'i huchder o'i lled yn bum cufydd, ar gyfer llenni'r cynteddfa. |
| 19 |
| Eu pedair colofn hefyd, a'u pedair mortais, oedd o bres; a'u pennau o arian; gwisg eu pennau hefyd a'u cylchau oedd arian. |
| 20 |
| A holl hoelion y tabernacl, a'r cynteddfa oddi amgylch, oedd bres. |
| 21 |
| Dyma gyfrif perthynasau y tabernacl, sef tabernacl y dystiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses, i wasanaeth y Lefiaid, trwy law Ithamar, mab Aaron yr offeiriad. |
| 22 |
| A Besaleel, mab Uri, mab Hur, o lwyth Jwda, a wnaeth yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 23 |
| A chydag ef yr ydoedd Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan, saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main. |
| 24 |
| Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith, sef yn holl waith y cysegr, sef aur yr offrwm, ydoedd naw talent ar hugain, a saith gan sicl a deg ar hugain, yn ôl sicl y cysegr. |
| 25 |
| Ac arian y rhai a gyfrifwyd o'r gynulleidfa, oedd gan talent, a mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, yn ôl sicl y cysegr. |
| 26 |
| Beca am bob pen; sef hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, am bob un a elai heibio dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod: sef am chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. |
| 27 |
| Ac o'r can talent arian y bwriwyd morteisiau'r cysegr, a morteisiau'r wahanlen; can mortais o'r can talent, talent i bob mortais. |
| 28 |
| Ac o'r mil a saith gant a phymtheg sicl a thrigain, y gwnaeth efe bennau'r colofnau; ac y gwisgodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt. |
| 29 |
| A phres yr offrwm oedd ddeg talent a thrigain, a dwy fil a phedwar cant o siclau. |
| 30 |
| Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod, a'r allor bres, a'r alch bres yr hon oedd iddi, a holl lestri'r allor; |
| 31 |
| A morteisiau'r cynteddfa o amgylch, a morteisiau porth y cynteddfa, a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/038.mp3
40
38