1
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2
"Yr wyt i godi'r tabernacl, pabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
3
Gosod arch y dystiolaeth ynddo, a'i gorchuddio llen.
4
Cymer y bwrdd i mewn, a'i osod yn drefnus, a chymer y canhwyllbren, a goleua ei lampau.
5
Rho allor aur yr arogldarth o flaen arch y dystiolaeth, a gosod y llen ar ddrws y tabernacl.
6
Rho allor y poethoffrwm o flaen drws y tabernacl, pabell y cyfarfod,
7
a gosod y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi du373?r ynddi.
8
Gosod y cyntedd o'i amgylch, a llen ar gyfer porth y cyntedd.
9
Yna cymer olew'r ennaint, ac eneinio'r tabernacl a'r cyfan sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl ddodrefn; a bydd yn gysegredig.
10
Eneinia hefyd allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a chysegra'r allor; a bydd yr allor yn gysegredig iawn.
11
Yna eneinia'r noe a'i throed, a chysegra hi.
12
Tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi du373?r,
13
a gwisg Aaron 'r gwisgoedd cysegredig; eneinia ef a'i gysegru i'm gwasanaethu fel offeiriad.
14
Tyrd 'i feibion hefyd, a'u gwisgo 'r siacedau;
15
eneinia hwy, fel yr eneiniaist eu tad, i'm gwasanaethu fel offeiriaid; trwy eu heneinio fe'u hurddir i offeiriadaeth dragwyddol, dros y cenedlaethau."
16
Felly gwnaeth Moses y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo;
17
ac ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf o'r ail flwyddyn fe godwyd y tabernacl.
18
Moses a gododd y tabernacl; gosododd ef ar ei draed, adeiladodd ei fframiau, rhoddodd ei bolion yn eu lle a chododd ei golofnau.
19
Lledodd y babell dros y tabernacl, a gosod to'r babell drosto, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20
Cymerodd y dystiolaeth a'i rhoi yn yr arch; cysylltodd y polion wrth yr arch, a rhoi'r drugareddfa arni.
21
Yna daeth 'r arch i mewn i'r tabernacl, a gosod y gorchudd yn ei le dros arch y dystiolaeth, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
22
Rhoddodd y bwrdd ym mhabell y cyfarfod, ar ochr ogleddol y tabernacl, y tu allan i'r gorchudd,
23
a threfnodd y bara arno gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
24
Rhoddodd y canhwyllbren ym mhabell y cyfarfod, gyferbyn 'r bwrdd ar ochr ddeheuol y tabernacl,
25
a goleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
26
Rhoddodd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod o flaen y gorchudd,
27
ac offrymodd arogldarth peraidd arni, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
28
Rhoddodd y llen ar ddrws y tabernacl,
29
a gosododd allor y poethoffrwm wrth ddrws y tabernacl, pabell y cyfarfod, ac offrymodd arni boethoffrwm a bwydoffrwm, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
30
Gosododd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi ynddi ddu373?r,
31
er mwyn i Moses, Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
32
Ymolchent wrth fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth nesu at yr allor, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
33
Cododd gyntedd o amgylch y tabernacl a'r allor, a rhoddodd y gorchudd dros borth y cyntedd. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.
34
Yna gorchuddiodd cwmwl babell y cyfarfod, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.
35
Ni allai Moses fynd i mewn i babell y cyfarfod am fod y cwmwl yn ei gorchuddio, ac am fod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl.
36
Pan godai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, fe gychwynnai pobl Israel ar eu taith;
37
ond os na chodai'r cwmwl ni chychwynnent.
38
Ar hyd y daith yr oedd holl du375? Israel yn gallu gweld cwmwl yr ARGLWYDD uwchben y tabernacl yn ystod y dydd, a thn uwch ei ben yn ystod y nos.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004