Beibl William Morgan 1955
|
| 1 |
| A'r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, |
| 2 |
| Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod. |
| 3 |
| A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia'r arch â'r wahanlen. |
| 4 |
| Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef. |
| 5 |
| Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl. |
| 6 |
| Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod. |
| 7 |
| Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a dod ynddi ddwfr. |
| 8 |
| A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa. |
| 9 |
| A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia'r tabernacl, a'r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a'i holl lestri; a sanctaidd fydd. |
| 10 |
| Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a'i holl lestri; a'r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf. |
| 11 |
| Eneinia y noe a'i throed, a sancteiddia hi. |
| 12 |
| A dwg Aaron a'i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. |
| 13 |
| A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi. |
| 14 |
| Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau. |
| 15 |
| Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. |
| 16 |
| Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo; felly y gwnaeth efe. |
| 17 |
| Felly yn y mis cyntaf o'r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o'r mis, y codwyd y tabernacl. |
| 18 |
| A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau; |
| 19 |
| Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do'r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 20 |
| Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch. |
| 21 |
| Ac efe a ddug yr arch i'r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 22 |
| Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du'r gogledd, o'r tu allan i'r wahanlen. |
| 23 |
| Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 24 |
| Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du'r deau. |
| 25 |
| Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 26 |
| Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen. |
| 27 |
| Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 28 |
| Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl. |
| 29 |
| Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 30 |
| Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi. |
| 31 |
| A Moses, ac Aaron, a'i feibion, a olchasant yno eu dwylo a'u traed. |
| 32 |
| Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses. |
| 33 |
| Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a'r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith. |
| 34 |
| Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tabernacl. |
| 35 |
| Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r tabernacl. |
| 36 |
| A phan gyfodai'r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i'w holl deithiau. |
| 37 |
| Ac oni chyfodai'r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai. |
| 38 |
| Canys cwmwl yr ARGLWYDD ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welshbmw/exodus/040.mp3
40
40