A'r afon a heigia lyffaint, y rhai a ddringant, ac a ddeuant i'th dŷ, ac i ystafell dy orweddle, ac ar dy wely, ac i dŷ dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th ffyrnau, ac ar dy fwyd gweddill.
Yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dywed wrth Aaron, Estyn dy law â'th wialen ar y ffrydiau, ar yr afonydd, ac ar y llynnoedd; a gwna i lyffaint ddyfod i fyny ar hyd tir yr Aifft.
Yna Pharo a alwodd am Moses ac Aaron, ac a ddywedodd, Gweddïwch ar yr ARGLWYDD, ar iddo dynnu'r llyffaint ymaith oddi wrthyf fi, ac oddi wrth fy mhobl; a mi a ollyngaf ymaith y bobl, fel yr aberthont i'r ARGLWYDD.
A Moses a ddywedodd wrth Pharo, Cymer ogoniant arnaf fi; Pa amser y gweddïaf trosot, a thros dy weision, a thros dy bobl, am ddifa'r llyffaint oddi wrthyt, ac o'th dai, a'u gadael yn unig yn yr afon?
Ac felly y gwnaethant: canys Aaron a estynnodd ei law â'i wialen, ac a drawodd lwch y ddaear; ac efe a aeth yn llau ar ddyn ac ar anifail: holl lwch y tir oedd yn llau trwy holl wlad yr Aifft.
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo; wele, efe a ddaw allan i'r dwfr: yna dywed wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y'm gwasanaethont.
Oherwydd, os ti ni ollyngi fy mhobl, wele fi yn gollwng arnat ti, ac ar dy weision, ac ar dy bobl, ac i'th dai, gymysgbla: a thai'r Eifftiaid a lenwir o'r gymysgbla, a'r ddaear hefyd yr hon y maent arni.
A'r dydd hwnnw y neilltuaf fi wlad Gosen, yr hon y mae fy mhobl yn aros ynddi, fel na byddo'r gymysgbla yno; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD yng nghanol y ddaear.
A dywedodd Moses, Nid cymwys gwneuthur felly; oblegid nyni a aberthwn i'r ARGLWYDD ein DUW ffieiddbeth yr Eifftiaid: wele, os aberthwn ffieiddbeth yr Eifftiaid yng ngŵydd eu llygaid hwynt, oni labyddiant hwy ni?
A dywedodd Moses, Wele, myfi a af allan oddi wrthyt, ac a weddïaf ar yr ARGLWYDD, ar gilio'r gymysgbla oddi wrth Pharo, oddi wrth ei weision, ac oddi wrth ei bobl, yfory: ond na thwylled Pharo mwyach, heb ollwng ymaith y bobl i aberthu i'r ARGLWYDD.