|
| 1 |
|
| Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen, ond mab ffl yn dwyn gofid i'w fam. |
|
| 2 |
|
| Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth. |
|
| 3 |
|
| Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu, ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg. |
|
| 4 |
|
| Y mae llaw segur yn dwyn tlodi, ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth. |
|
| 5 |
|
| Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus, ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod chywilydd. |
|
| 6 |
|
| Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais. |
|
| 7 |
|
| Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith, ond y mae enw'r drwg yn diflannu. |
|
| 8 |
|
| Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn, ond y ffl ei siarad yn cael ei ddifetha. |
|
| 9 |
|
| Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel, ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd. |
|
| 10 |
|
| Y mae wincio 'r llygad yn achosi helbul, ond cerydd agored yn peri heddwch. |
|
| 11 |
|
| Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn, ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais. |
|
| 12 |
|
| Y mae casineb yn achosi cynnen, ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd. |
|
| 13 |
|
| Ar wefusau'r deallus ceir doethineb, ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr. |
|
| 14 |
|
| Y mae'r doeth yn trysori deall, ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffl. |
|
| 15 |
|
| Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ond dinistr y tlawd yw ei dlodi. |
|
| 16 |
|
| Cyflog y cyfiawn yw bywyd, ond cynnyrch y drwg yw pechod. |
|
| 17 |
|
| Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd, ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod. |
|
| 18 |
|
| Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb, a ffl yw'r un sy'n enllibio. |
|
| 19 |
|
| Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo, ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau. |
|
| 20 |
|
| Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol, ond diwerth yw calon yr un drwg. |
|
| 21 |
|
| Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer, ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr. |
|
| 22 |
|
| Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth, ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi. |
|
| 23 |
|
| Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffl, ond doethineb yw hyfrydwch y deallus. |
|
| 24 |
|
| Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus, ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad. |
|
| 25 |
|
| Ar l y storm, ni bydd sn am y drygionus, ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol. |
|
| 26 |
|
| Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid, felly y mae'r diogyn i'w feistr. |
|
| 27 |
|
| Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau, ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau. |
|
| 28 |
|
| Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd, ond derfydd gobaith y drygionus. |
|
| 29 |
|
| Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn, ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg. |
|
| 30 |
|
| Ni symudir y cyfiawn byth, ond nid erys y drygionus ar y ddaear. |
|
| 31 |
|
| Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, ond torrir ymaith y tafod twyllodrus. |
|
| 32 |
|
| Gu373?yr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy, ond twyllodrus yw genau'r drygionus. |
|
|
|
|