|
| 1 |
|
| Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth, ond hurtyn sy'n casu cerydd. |
|
| 2 |
|
| Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD, ond condemnir y dichellgar. |
|
| 3 |
|
| Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni, ac ni ddiwreiddir y cyfiawn. |
|
| 4 |
|
| Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gu373?r, ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn. |
|
| 5 |
|
| Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir, ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus. |
|
| 6 |
|
| Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus, ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu. |
|
| 7 |
|
| Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt, ond saif tu375?'r cyfiawn yn gadarn. |
|
| 8 |
|
| Canmolir rhywun ar sail ei ddeall, ond gwawdir y meddwl trodig. |
|
| 9 |
|
| Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid, na bod yn ymffrostgar a heb fwyd. |
|
| 10 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail, ond y mae'r drygionus yn ddidostur. |
|
| 11 |
|
| Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr. |
|
| 12 |
|
| Blysia'r drygionus am ysbail drygioni, ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr. |
|
| 13 |
|
| Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau, ond dianc y cyfiawn rhag adfyd. |
|
| 14 |
|
| Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un daioni, a thelir iddo yn l yr hyn a wnaeth. |
|
| 15 |
|
| Y mae ffordd y ffl yn iawn yn ei olwg, ond gwrendy'r doeth ar gyngor. |
|
| 16 |
|
| Buan y dengys y ffl ei fod wedi ei gythruddo, ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad. |
|
| 17 |
|
| Y mae tyst gonest yn dweud y gwir, ond celwydd a draetha'r gau dyst. |
|
| 18 |
|
| Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iachu. |
|
| 19 |
|
| Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad. |
|
| 20 |
|
| Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch. |
|
| 21 |
|
| Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn, ond bydd y drygionus yn llawn helbul. |
|
| 22 |
|
| Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd. |
|
| 23 |
|
| Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth, ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb. |
|
| 24 |
|
| Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod, ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed. |
|
| 25 |
|
| Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun, ond llawenheir ef gan air caredig. |
|
| 26 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain. |
|
| 27 |
|
| Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa, ond gan y diwyd bydd golud mawr. |
|
| 28 |
|
| Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd, ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau. |
|
|
|
|