|
| 1 |
|
| Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw. |
|
| 2 |
|
| Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe. |
|
| 3 |
|
| Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga. |
|
| 4 |
|
| Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef. |
|
| 5 |
|
| Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus. |
|
| 6 |
|
| Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt. |
|
| 7 |
|
| Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif. |
|
| 8 |
|
| Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir. |
|
| 9 |
|
| Gwell yw yr hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara. |
|
| 10 |
|
| Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon. |
|
| 11 |
|
| Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw. |
|
| 12 |
|
| Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth. |
|
| 13 |
|
| Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder. |
|
| 14 |
|
| Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo. |
|
| 15 |
|
| Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall. |
|
| 16 |
|
| Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd. |
|
| 17 |
|
| Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll. |
|
| 18 |
|
| Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth. |
|
| 19 |
|
| Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr. |
|
| 20 |
|
| Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd. |
|
| 21 |
|
| Ni ddigwydd i'r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg. |
|
| 22 |
|
| Ffiaidd gan yr ARGLWYDD wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef. |
|
| 23 |
|
| Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb. |
|
| 24 |
|
| Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged. |
|
| 25 |
|
| Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a'i llawenha hi. |
|
| 26 |
|
| Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a'u twylla hwynt. |
|
| 27 |
|
| Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr. |
|
| 28 |
|
| Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth. |
|
|
|
|