|
| 1 |
|
| Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad, ond ni wrendy gwatwarwr ar gerydd. |
|
| 2 |
|
| Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un daioni, ond awchu am drais y mae twyllwyr. |
|
| 3 |
|
| Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd, ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod. |
|
| 4 |
|
| Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim, ond y mae'r diwyd yn ffynnu. |
|
| 5 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn casu twyll, ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus. |
|
| 6 |
|
| Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir, ond drygioni yn dymchwel y pechadur. |
|
| 7 |
|
| Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo; ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn. |
|
| 8 |
|
| Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth, ond ni chlyw'r tlawd fygythion. |
|
| 9 |
|
| Disgleiria goleuni'r cyfiawn, ond diffydd lamp y drygionus. |
|
| 10 |
|
| Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio, ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor. |
|
| 11 |
|
| Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech, ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda. |
|
| 12 |
|
| Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon, ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol. |
|
| 13 |
|
| Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor, ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn. |
|
| 14 |
|
| Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth. |
|
| 15 |
|
| Y mae deall da yn ennill ffafr, ond garw yw ffordd y twyllwyr. |
|
| 16 |
|
| Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus, ond y mae'r ffl yn amlygu ffolineb. |
|
| 17 |
|
| Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr, ond cennad cywir yn dwyn lles. |
|
| 18 |
|
| Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth, ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd. |
|
| 19 |
|
| Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas, ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg. |
|
| 20 |
|
| Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb, ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid. |
|
| 21 |
|
| Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid, ond daioni yw gwobr y cyfiawn. |
|
| 22 |
|
| Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant, ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn. |
|
| 23 |
|
| Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion, ond heb gyfiawnder fe ddiflanna. |
|
| 24 |
|
| Casu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen, ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson. |
|
| 25 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon, ond gwag fydd bol y drygionus. |
|
|
|
|