|
| 1 |
|
| Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thu375?, ond y ffl yn ei dynnu i lawr 'i dwylo'i hun. |
|
| 2 |
|
| Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD, ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu. |
|
| 3 |
|
| Yng ngeiriau'r ffl y mae gwialen i'w gefn, ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn. |
|
| 4 |
|
| Heb ychen y mae'r preseb yn wag, ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn. |
|
| 5 |
|
| Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd, ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau. |
|
| 6 |
|
| Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael, ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus. |
|
| 7 |
|
| Cilia oddi wrth yr un ffl, oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo. |
|
| 8 |
|
| Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd, ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain. |
|
| 9 |
|
| Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd, ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol. |
|
| 10 |
|
| Gu373?yr y galon am ei chwerwder ei hun, ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd. |
|
| 11 |
|
| Dinistrir tu375?'r drygionus, ond ffynna pabell yr uniawn. |
|
| 12 |
|
| Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd. |
|
| 13 |
|
| Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus, a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd. |
|
| 14 |
|
| Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun, a'r daionus gan ei weithredoedd yntau. |
|
| 15 |
|
| Y mae'r gwirion yn credu pob gair, ond y mae'r call yn ystyried pob cam. |
|
| 16 |
|
| Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae'r ffl yn ddiofal a gorhyderus. |
|
| 17 |
|
| Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffl, a chaseir yr un dichellgar. |
|
| 18 |
|
| Ffolineb yw rhan y rhai gwirion, ond gwybodaeth yw coron y rhai call. |
|
| 19 |
|
| Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda, a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn. |
|
| 20 |
|
| Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod, ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog. |
|
| 21 |
|
| Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu, ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus. |
|
| 22 |
|
| Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni, ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon? |
|
| 23 |
|
| Ym mhob llafur y mae elw, ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen. |
|
| 24 |
|
| Eu craffter yw coron y doeth, ond ffolineb yw addurn y ffyliaid. |
|
| 25 |
|
| Y mae tyst geirwir yn achub bywydau, ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau. |
|
| 26 |
|
| Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn, a bydd yn noddfa i'w blant. |
|
| 27 |
|
| Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth. |
|
| 28 |
|
| Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin; ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr. |
|
| 29 |
|
| Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar, ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer. |
|
| 30 |
|
| Meddwl iach yw iechyd y corff, ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen. |
|
| 31 |
|
| Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu. |
|
| 32 |
|
| Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun, ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw. |
|
| 33 |
|
| Trig doethineb ym meddwl y deallus, ond dirmygir hi ymysg ffyliaid. |
|
| 34 |
|
| Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl, ond pechod yn warth ar bobloedd. |
|
| 35 |
|
| Rhydd brenin ffafr i was deallus, ond digia wrth yr un a'i sarha. |
|
|
|
|