|
| 1 |
|
| Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a'i tyn ef i lawr â'i dwylo. |
|
| 2 |
|
| Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a'r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef. |
|
| 3 |
|
| Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a'u ceidw hwynt. |
|
| 4 |
|
| Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych. |
|
| 5 |
|
| Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau. |
|
| 6 |
|
| Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i'r deallus. |
|
| 7 |
|
| Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth. |
|
| 8 |
|
| Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll. |
|
| 9 |
|
| Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da. |
|
| 10 |
|
| Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a'r dieithr ni bydd gyfrannog o'i llawenydd hi. |
|
| 11 |
|
| Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua. |
|
| 12 |
|
| Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. |
|
| 13 |
|
| Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. |
|
| 14 |
|
| Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o'i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. |
|
| 15 |
|
| Yr ehud a goelia bob gair: a'r call a ddeil ar ei gamre. |
|
| 16 |
|
| Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. |
|
| 17 |
|
| Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. |
|
| 18 |
|
| Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth. |
|
| 19 |
|
| Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a'r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. |
|
| 20 |
|
| Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. |
|
| 21 |
|
| A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. |
|
| 22 |
|
| Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i'r sawl a ddychmygant ddaioni. |
|
| 23 |
|
| Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. |
|
| 24 |
|
| Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. |
|
| 25 |
|
| Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. |
|
| 26 |
|
| Yn ofn yr ARGLWYDD y mae gobaith cadarn: ac i'w blant ef y bydd noddfa. |
|
| 27 |
|
| Ofn yr ARGLWYDD yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. |
|
| 28 |
|
| Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. |
|
| 29 |
|
| Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. |
|
| 30 |
|
| Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. |
|
| 31 |
|
| Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a'i hanrhydedda ef. |
|
| 32 |
|
| Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. |
|
| 33 |
|
| Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir. |
|
| 34 |
|
| Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod. |
|
| 35 |
|
| Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus. |
|
|
|
|