|
| 1 |
|
| Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson. |
|
| 2 |
|
| Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o'r etifeddiaeth ymhlith y brodyr. |
|
| 3 |
|
| Y tawddlestr sydd i'r arian, a'r ffwrn i'r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD. |
|
| 4 |
|
| Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a'r celwyddog a rydd glust i dafod drwg. |
|
| 5 |
|
| Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a'r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog. |
|
| 6 |
|
| Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau. |
|
| 7 |
|
| Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog. |
|
| 8 |
|
| Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna. |
|
| 9 |
|
| Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion. |
|
| 10 |
|
| Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith. |
|
| 11 |
|
| Y dyn drwg sydd â'i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef. |
|
| 12 |
|
| Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â'r ffôl yn ei ffolineb. |
|
| 13 |
|
| Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â'i dŷ ef. |
|
| 14 |
|
| Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni. |
|
| 15 |
|
| Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr ARGLWYDD ydynt ill dau. |
|
| 16 |
|
| Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo? |
|
| 17 |
|
| Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi. |
|
| 18 |
|
| Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill. |
|
| 19 |
|
| Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a'r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed. |
|
| 20 |
|
| Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a'r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg. |
|
| 21 |
|
| Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd. |
|
| 22 |
|
| Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn. |
|
| 23 |
|
| Yr annuwiol a dderbyn rodd o'r fynwes, i gamdroi llwybrau barn. |
|
| 24 |
|
| Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd. |
|
| 25 |
|
| Mab ffôl a bair ddicllonedd i'w dad, a chwerwder i'w fam. |
|
| 26 |
|
| Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn. |
|
| 27 |
|
| Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd. |
|
| 28 |
|
| Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a'r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus. |
|
|
|
|