|
| 1 |
|
| Y mae'r un sy'n cadw ar wahn yn ceisio cweryl, ac yn ymosod ar bob cynllun. |
|
| 2 |
|
| Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall, dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun. |
|
| 3 |
|
| Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg, a gwarth ar l amarch. |
|
| 4 |
|
| Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion, yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb. |
|
| 5 |
|
| Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus, i amddifadu'r cyfiawn o farn. |
|
| 6 |
|
| Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen, a'i eiriau yn gofyn am gurfa. |
|
| 7 |
|
| Genau'r ynfyd yw ei ddinistr, ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun. |
|
| 8 |
|
| Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla. |
|
| 9 |
|
| Y mae'r diog yn ei waith yn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr. |
|
| 10 |
|
| Y mae enw'r ARGLWYDD yn du373?r cadarn; rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel. |
|
| 11 |
|
| Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun. |
|
| 12 |
|
| Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch, ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd. |
|
| 13 |
|
| Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrando yn dangos ffolineb ac amarch. |
|
| 14 |
|
| Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd, ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd? |
|
| 15 |
|
| Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth, a chlust y doeth yn chwilio am ddeall. |
|
| 16 |
|
| Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo, ac yn ei arwain at y mawrion. |
|
| 17 |
|
| Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn, nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi. |
|
| 18 |
|
| Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon, ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn. |
|
| 19 |
|
| Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn, a chwerylon fel bollt castell. |
|
| 20 |
|
| O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un, a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu. |
|
| 21 |
|
| Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth. |
|
| 22 |
|
| Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD. |
|
| 23 |
|
| Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar, ond y cyfoethog yn ateb yn arw. |
|
| 24 |
|
| Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd. |
|
|
|
|