|
| 1 |
|
| Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest na'r un twyllodrus ei eiriau, ac yntau'n ynfyd. |
|
| 2 |
|
| Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall; y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd. |
|
| 3 |
|
| Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd, ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig. |
|
| 4 |
|
| Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion, ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd. |
|
| 5 |
|
| Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd. |
|
| 6 |
|
| Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig, a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi. |
|
| 7 |
|
| Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasu; gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho! Y mae'n eu dilyn geiriau, ond nid ydynt yno. |
|
| 8 |
|
| Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd, a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni. |
|
| 9 |
|
| Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb, a difethir yr un sy'n dweud celwydd. |
|
| 10 |
|
| Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd, na rheoli tywysogion i gaethwas. |
|
| 11 |
|
| Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd. |
|
| 12 |
|
| Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc, ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt. |
|
| 13 |
|
| Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad, a checru gwraig fel diferion parhaus. |
|
| 14 |
|
| Oddi wrth rieni yr etifeddir tu375? a chyfoeth, ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus. |
|
| 15 |
|
| Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg, ac i'r diogyn daw newyn. |
|
| 16 |
|
| Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun, ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. |
|
| 17 |
|
| Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD, ac fe dl ef yn l iddo am ei weithred. |
|
| 18 |
|
| Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo, ond gofala beidio 'i ladd. |
|
| 19 |
|
| Daw cosb ar y gwyllt ei dymer; er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto. |
|
| 20 |
|
| Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth, er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd. |
|
| 21 |
|
| Niferus yw bwriadau meddwl pobl, ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll. |
|
| 22 |
|
| Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch, a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog. |
|
| 23 |
|
| Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd, a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed. |
|
| 24 |
|
| Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl, eto nid yw'n ei chodi at ei enau. |
|
| 25 |
|
| Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers; os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth. |
|
| 26 |
|
| Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam yn fab gwaradwyddus ac amharchus. |
|
| 27 |
|
| Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd, byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth. |
|
| 28 |
|
| Y mae tyst anonest yn gwatwar barn, a genau'r drygionus yn parablu camwedd. |
|
| 29 |
|
| Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr, a chernodiau i gefn ynfydion. |
|
|
|
|