|
| 1 |
|
| Mae'n well bod yn dlawd ac yn onest nac yn ffŵl sy'n dweud celwydd. |
|
| 2 |
|
| Dydy sêl heb ddeall ddim yn beth da; mae'r rhai sydd ar ormod o frys yn colli'r ffordd. |
|
| 3 |
|
| Ffolineb pobl sy'n difetha eu bywydau, ond maen nhw'n dal dig yn erbyn yr ARGLWYDD. |
|
| 4 |
|
| Mae cyfoeth yn denu llawer o ffrindiau, ond mae ffrind person tlawd yn troi cefn arno. |
|
| 5 |
|
| Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; fydd rhywun sy'n palu celwyddau ddim yn dianc. |
|
| 6 |
|
| Mae llawer yn crafu i ennill ffafr pobl bwysig, ac mae pawb eisiau bod yn ffrindiau gyda rhywun hael. |
|
| 7 |
|
| Mae perthnasau rhywun tlawd eisiau cael gwared ag e; does dim syndod fod ei ffrindiau yn ei osgoi! Mae'n gofyn am help, ond does dim ymateb. |
|
| 8 |
|
| Mae'r person doeth yn caru ei fywyd; a'r un sy'n gwneud yn siŵr ei fod yn deall yn hapus. |
|
| 9 |
|
| Bydd tyst celwyddog yn cael ei gosbi; mae wedi darfod ar rywun sy'n palu celwyddau. |
|
| 10 |
|
| Dydy byw'n foethus ddim yn gweddu i ffŵl; llai fyth, caethwas yn rheoli ei feistr. |
|
| 11 |
|
| Mae rhywun call yn rheoli ei dymer; mae i'w ganmol am faddau i rywun sy'n pechu'n ei erbyn. |
|
| 12 |
|
| Mae brenin dig fel llew yn rhuo; ond mae ei ffafr fel gwlith ar laswellt. |
|
| 13 |
|
| Mae plentyn ffôl yn achosi trafferthion i'w dad; a gwraig sy'n swnian fel dŵr yn diferu'n ddi-baid. |
|
| 14 |
|
| Mae plant yn etifeddu tŷ ac eiddo gan eu rhieni, ond yr ARGLWYDD sy'n rhoi gwraig ddoeth. |
|
| 15 |
|
| Mae diogi yn achosi trwmgwsg; bydd y person diog yn llwgu. |
|
| 16 |
|
| Mae'r sawl sy'n cadw'r gorchmynion yn cael byw; ond bydd yr un sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw. |
|
| 17 |
|
| Mae rhoi yn hael i'r tlawd fel benthyg i'r ARGLWYDD; bydd e'n talu'n ôl iddo am fod mor garedig. |
|
| 18 |
|
| Disgybla dy blentyn tra mae gobaith iddo, ond paid colli dy limpyn yn llwyr. |
|
| 19 |
|
| Mae'r un sy'n fyr ei dymer yn gorfod talu'r pris; os wyt am ei helpu, byddi'n gorfod gwneud hynny fwy nag unwaith. |
|
| 20 |
|
| Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd, a byddi'n ddoeth yn y diwedd. |
|
| 21 |
|
| Mae gan bobl bob math o gynlluniau, ond cynllun yr ARGLWYDD fydd yn cael ei gyflawni. |
|
| 22 |
|
| Mae ffyddlondeb yn beth dymunol mewn person; gwell bod yn dlawd na dweud celwydd. |
|
| 23 |
|
| Mae parchu'r ARGLWYDD yn arwain i fywyd; mae person felly yn dawel ei feddwl, ac yn ofni dim drwg. |
|
| 24 |
|
| Mae'r diogyn yn estyn am fwyd, ond yn rhy ddiog i'w godi at ei geg! |
|
| 25 |
|
| Cura'r un sy'n gwawdio, a bydd y gwirion yn dysgu gwers; cywira rywun call a bydd yn dysgu mwy fyth. |
|
| 26 |
|
| Mae plentyn sy'n dwyn oddi ar ei dad ac yn gyrru ei fam o'i chartre yn achos cywilydd a gwarth. |
|
| 27 |
|
| Fy mab, os byddi'n stopio gwrando pan wyt ti'n cael dy gywiro, byddi wedi troi dy gefn ar ddoethineb. |
|
| 28 |
|
| Mae tyst sy'n twyllo yn dibrisio cyfiawnder, a pobl ddrwg wrth eu boddau gyda chelwydd. |
|
| 29 |
|
| Bydd y rhai sy'n gwawdio yn cael eu cosbi a'r ffyliaid yn cael eu curo. |
|
|
|
|