Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, |
| 2 |
| a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; |
| 3 |
| os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, |
| 4 |
| a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor |
| 5 |
| yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. |
| 6 |
| Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall. |
| 7 |
| Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir. |
| 8 |
| Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid. |
| 9 |
| Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda; |
| 10 |
| oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti. |
| 11 |
| Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod, |
| 12 |
| ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus |
| 13 |
| y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch, |
| 14 |
| sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll, |
| 15 |
| y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog. |
| 16 |
| Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar, |
| 17 |
| sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid, ac wedi anghofio cyfamod ei Duw. |
| 18 |
| Oherwydd y mae ei thu375? yn gwyro at angau, a'i llwybrau at y cysgodion. |
| 19 |
| Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei l, ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd. |
| 20 |
| Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da, a chadw at lwybrau'r cyfiawn. |
| 21 |
| Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir, a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo; |
| 22 |
| ond torrir y rhai drwg o'r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/proverbs/002.mp3
31
2