|
| 1 |
|
| Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn; nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad. |
|
| 2 |
|
| Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc; y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd. |
|
| 3 |
|
| Clod i bob un yw gwrthod cweryla, ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn. |
|
| 4 |
|
| Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael. |
|
| 5 |
|
| Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion, ond gall dyn deallus ei dynnu allan. |
|
| 6 |
|
| Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar, ond pwy a all gael dyn ffyddlon? |
|
| 7 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir; gwyn eu byd ei blant ar ei l! |
|
| 8 |
|
| Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn yn gallu nithio pob drwg 'i lygaid. |
|
| 9 |
|
| Pwy a all ddweud, "Yr wyf wedi puro fy meddwl; yr wyf yn ln o'm pechod"? |
|
| 10 |
|
| Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau, y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD. |
|
| 11 |
|
| Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc a yw ei waith yn bur ac yn uniawn. |
|
| 12 |
|
| Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld, yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau. |
|
| 13 |
|
| Paid bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd; cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd. |
|
| 14 |
|
| "Gwael iawn," meddai'r prynwr; ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen. |
|
| 15 |
|
| Y mae digonedd o aur ac o emau, ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf. |
|
| 16 |
|
| Cymer wisg y sawl sy'n mechno dros estron, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn. |
|
| 17 |
|
| Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll, ond yn y diwedd llenwir ei geg graean. |
|
| 18 |
|
| Sicrheir cynlluniau trwy gyngor; rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel. |
|
| 19 |
|
| Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach; paid chyfeillachu 'r llac ei dafod. |
|
| 20 |
|
| Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam, diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew. |
|
| 21 |
|
| Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau, ni bydd bendith ar ei diwedd. |
|
| 22 |
|
| Paid dweud, "Talaf y pwyth yn l"; disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam. |
|
| 23 |
|
| Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau, ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus. |
|
| 24 |
|
| Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl; sut y gall neb ddeall ei ffordd? |
|
| 25 |
|
| Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll, ac yna dechrau ystyried ar l gwneud addunedau. |
|
| 26 |
|
| Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn. |
|
| 27 |
|
| Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl, i chwilio i ddyfnderau eu bod. |
|
| 28 |
|
| Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin, a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch. |
|
| 29 |
|
| Gogoniant yr ifainc yw eu nerth, ac addurn i'r hen yw penwynni. |
|
| 30 |
|
| Y mae taro i'r byw yn gwella drwg, a dyrnodiau yn iachu rhywun drwyddo. |
|
|
|
|