|
| 1 |
|
| Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddu373?r; fe'i try i ble bynnag y dymuna. |
|
| 2 |
|
| Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon. |
|
| 3 |
|
| Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth. |
|
| 4 |
|
| Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod. |
|
| 5 |
|
| Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys. |
|
| 6 |
|
| Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth. |
|
| 7 |
|
| Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn. |
|
| 8 |
|
| Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll. |
|
| 9 |
|
| Gwell yw byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. |
|
| 10 |
|
| Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog. |
|
| 11 |
|
| Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall. |
|
| 12 |
|
| Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar du375?'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr. |
|
| 13 |
|
| Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw. |
|
| 14 |
|
| Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a chil-dwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr. |
|
| 15 |
|
| Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg. |
|
| 16 |
|
| Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw. |
|
| 17 |
|
| Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog. |
|
| 18 |
|
| Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn, a'r twyllwr dros y rhai uniawn. |
|
| 19 |
|
| Gwell byw mewn anialwch na chyda gwraig gecrus a dicllon. |
|
| 20 |
|
| Yn nhu375?'r doeth y mae trysor dymunol ac olew, ond y mae'r ffl yn eu difa. |
|
| 21 |
|
| Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd. |
|
| 22 |
|
| Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi. |
|
| 23 |
|
| Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod, fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau. |
|
| 24 |
|
| Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw, gweithreda yn gwbl drahaus. |
|
| 25 |
|
| Y mae blys y diog yn ei ladd, am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio. |
|
| 26 |
|
| Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed. |
|
| 27 |
|
| Ffiaidd yw aberth y drygionus, yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell. |
|
| 28 |
|
| Difethir y tyst celwyddog, ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru. |
|
| 29 |
|
| Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb, ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd. |
|
| 30 |
|
| Nid yw doethineb na deall na chyngor yn ddim o flaen yr ARGLWYDD. |
|
| 31 |
|
| Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr, eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth. |
|
|
|
|