|
| 1 |
|
| Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer, a gwell yw parch nag arian ac aur. |
|
| 2 |
|
| Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau. |
|
| 3 |
|
| Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny. |
|
| 4 |
|
| Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd. |
|
| 5 |
|
| Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig, ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt. |
|
| 6 |
|
| Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia. |
|
| 7 |
|
| Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr. |
|
| 8 |
|
| Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid, a bydd gwialen ei ymffrost yn methu. |
|
| 9 |
|
| Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd. |
|
| 10 |
|
| Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson, a diwedd ar ddadlau a gwawd. |
|
| 11 |
|
| Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin. |
|
| 12 |
|
| Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall, ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr. |
|
| 13 |
|
| Dywed y diog, "Y mae llew y tu allan; fe'm lleddir yn y stryd." |
|
| 14 |
|
| Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn; y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo. |
|
| 15 |
|
| Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho. |
|
| 16 |
|
| Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun, ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen. |
|
| 17 |
|
| Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall; |
|
| 18 |
|
| oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau. |
|
| 19 |
|
| Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw ie, i ti! |
|
| 20 |
|
| Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall, |
|
| 21 |
|
| i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd? |
|
| 22 |
|
| Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid sathru'r anghenus yn y porth; |
|
| 23 |
|
| oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy. |
|
| 24 |
|
| Paid chyfeillachu neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon, |
|
| 25 |
|
| rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl. |
|
| 26 |
|
| Paid rhoi gwystl, a mynd yn feichiau am ddyledion; |
|
| 27 |
|
| os na fydd gennyt ddim i dalu, oni chymerir dy wely oddi arnat? |
|
| 28 |
|
| Paid symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid. |
|
| 29 |
|
| Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys. |
|
|
|
|