|
| 1 |
|
| Mae enw da yn well na chyfoeth mawr, a charedigrwydd yn well nag arian ac aur. |
|
| 2 |
|
| Mae un peth sy'n wir am y cyfoethog a'r tlawd: yr ARGLWYDD wnaeth greu y ddau ohonyn nhw. |
|
| 3 |
|
| Mae'r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris. |
|
| 4 |
|
| Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr ARGLWYDD yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd. |
|
| 5 |
|
| Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy'n twyllo; ond mae'r person sy'n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw. |
|
| 6 |
|
| Dysga blentyn y ffordd orau i fyw; a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e'n hŷn. |
|
| 7 |
|
| Fel mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, mae'r un sydd mewn dyled yn gaethwas i'r benthyciwr. |
|
| 8 |
|
| Bydd y rhai sy'n hau drygioni yn medi helyntion, a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri. |
|
| 9 |
|
| Bydd person hael yn cael ei fendithio am rannu ei fwyd gyda'r tlawd. |
|
| 10 |
|
| Taflwch allan yr un sy'n creu helynt, a bydd y cweryla'n peidio, bydd y ffraeo a'r sarhau yn stopio. |
|
| 11 |
|
| Pwy bynnag sy'n ddidwyll a'i eiriau'n garedig, bydd yn ffrindiau gyda'r brenin. |
|
| 12 |
|
| Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy'n gwybod y gwir; ond mae'n tanseilio beth mae'r twyllwr yn ei ddweud. |
|
| 13 |
|
| Mae'r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna! Mae'n beryg bywyd i fynd allan i'r stryd.” |
|
| 14 |
|
| Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn; mae'r rhai sy'n digio'r ARGLWYDD yn syrthio iddo. |
|
| 15 |
|
| Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc, bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e. |
|
| 16 |
|
| Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd, neu roi anrhegion i'r cyfoethog, yn ddim byd ond colled! |
|
| 17 |
|
| Gwranda'n astud ar beth mae'r doethion wedi ei ddweud; a meddylia am y pethau dw i'n eu dysgu i ti. |
|
| 18 |
|
| Mae'n beth da i'r rhain wreiddio'n ddwfn ynot ti ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser. |
|
| 19 |
|
| Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw — ie, ti — er mwyn i ti drystio'r ARGLWYDD. |
|
| 20 |
|
| Dw i wedi eu hysgrifennu nhw i lawr — “Y Tri Deg Cyngor Doeth”, |
|
| 21 |
|
| i ti ddysgu'r gwir, a beth sy'n iawn, a mynd â'r atebion iawn i'r rhai wnaeth dy anfon di. |
|
| 22 |
|
| Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw'n dlawd; na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys. |
|
| 23 |
|
| Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw, ac yn gorthrymu'r rhai sy'n eu gorthrymu nhw. |
|
| 24 |
|
| Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis, na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt, |
|
| 25 |
|
| rhag i ti hefyd droi felly, a methu dianc. |
|
| 26 |
|
| Paid bod yn rhy barod i gytuno i dalu dyledion rhywun arall; |
|
| 27 |
|
| Os na fyddi di'n gallu talu byddi'n colli popeth, hyd yn oed dy wely! |
|
| 28 |
|
| Paid symud yr hen ffiniau gafodd eu gosod gan dy hynafiaid. |
|
| 29 |
|
| Pan weli di rywun sy'n fedrus yn ei waith — bydd hwnnw'n gwasanaethu brenhinoedd, nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw. |
|
|
|
|