×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Diarhebion 25

1
Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wu375?r Heseceia brenin Jwda:
2
Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig, a gogoniant brenhinoedd yw eu chwilio allan.
3
Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn, felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.
4
Symud yr amhuredd o'r arian, a daw'n llestr yn llaw'r gof.
5
Symud y drygionus o u373?ydd y brenin, a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.
6
Paid ag ymddyrchafu yng ngu373?ydd y brenin, na sefyll yn lle'r mawrion,
7
oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny, na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.
8
Paid brysio i wneud achos o'r hyn a welaist, rhag, wedi iti orffen gwneud hynny, i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.
9
Dadlau dy achos 'th gymydog, ond paid dadlennu cyfrinach rhywun arall,
10
rhag iddo dy sarhau pan glyw, a thithau'n methu galw dy annoethineb yn l.
11
Fel afalau aur ar addurniadau o arian, felly y mae gair a leferir yn ei bryd.
12
Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr, felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.
13
Fel oerni eira yn amser cynhaeaf, felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon; y mae'n adfywio ysbryd ei feistri.
14
Fel cymylau a gwynt, na roddant law, felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi.
15
Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr, a gall tafod tyner dorri asgwrn.
16
Os cei fl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat, rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.
17
Paid mynd yn rhy aml i du375? dy gymydog, rhag iddo gael digon arnat, a'th gasu.
18
Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw, felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.
19
Fel dant drwg, neu droed yn llithro, felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.
20
Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer, neu roi finegr ar friw, felly y mae canu caneuon i galon drist.
21
Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta, ac os yw'n sychedig, rho iddo ddu373?r i'w yfed;
22
byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben, ac fe dl yr ARGLWYDD iti.
23
Y mae gwynt y gogledd yn dod glaw, a thafod enllibus yn dod chilwg.
24
Y mae'n well byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
25
Fel du373?r oer i lwnc sychedig, felly y mae newydd da o wlad bell.
26
Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru, felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus.
27
Nid yw'n dda bwyta gormod o fl, a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth.
28
Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur, felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau