|
| 1 |
|
| Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda. |
|
| 2 |
|
| Anrhydedd DUW yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan. |
|
| 3 |
|
| Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio. |
|
| 4 |
|
| Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i'r gof arian lestr. |
|
| 5 |
|
| Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a'i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder. |
|
| 6 |
|
| Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr: |
|
| 7 |
|
| Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na'th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid. |
|
| 8 |
|
| Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog. |
|
| 9 |
|
| Ymresyma â'th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall: |
|
| 10 |
|
| Rhag i'r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i'th gywilydd na thro ymaith. |
|
| 11 |
|
| Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. |
|
| 12 |
|
| Ceryddwr doeth i'r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol. |
|
| 13 |
|
| Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i'r rhai a'i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid. |
|
| 14 |
|
| Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law. |
|
| 15 |
|
| Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. |
|
| 16 |
|
| Pan gaffech fêl, bwyta a'th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. |
|
| 17 |
|
| Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a'th gasáu. |
|
| 18 |
|
| Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. |
|
| 19 |
|
| Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. |
|
| 20 |
|
| Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. |
|
| 21 |
|
| Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i'w hyfed: |
|
| 22 |
|
| Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a'r ARGLWYDD a dâl i ti. |
|
| 23 |
|
| Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar. |
|
| 24 |
|
| Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang. |
|
| 25 |
|
| Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell. |
|
| 26 |
|
| Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr. |
|
| 27 |
|
| Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. |
|
| 28 |
|
| Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer. |
|
|
|
|