×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Diarhebion 26

1
Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf, felly nid yw anrhydedd yn gweddu i'r ffl.
2
Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio, felly ni chyflawnir melltith ddiachos.
3
Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn, a gwialen i gefn ffyliaid!
4
Paid ag ateb y ffu373?l yn l ei ffolineb, rhag i ti fynd yn debyg iddo.
5
Ateb y ffu373?l yn l ei ffolineb, rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6
Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffu373?l yn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.
7
Fel coesau'r cloff yn honcian, felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
8
Fel gosod carreg mewn ffon dafl, felly y mae rhoi anrhydedd i ffu373?l.
9
Fel draenen yn mynd i law meddwyn, felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
10
Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio, felly y mae'r un sy'n cyflogi ffu373?l neu feddwyn.
11
Fel ci yn troi'n l at ei gyfog, felly y mae'r ffu373?l sy'n ailadrodd ei ffolineb.
12
Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun; y mae mwy o obaith i ffu373?l nag iddo ef.
13
Dywed y diog, "Y mae llew ar y ffordd, llew yn rhydd yn y strydoedd!"
14
Fel y mae drws yn troi ar ei golyn, felly y mae'r diog yn ei wely.
15
Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl, ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.
16
Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hun na saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.
17
Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio, felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.
18
Fel rhywun gwallgof yn saethu pentewynion saethau marwol,
19
felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog, ac yn dweud, "Dim ond cellwair yr oeddwn."
20
Heb goed fe ddiffydd tn, a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.
21
Fel glo i farwor, a choed i dn, felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.
22
Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla.
23
Fel golchiad arian ar lestr pridd, felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus.
24
Y mae gelyn yn rhagrithio 'i eiriau, ac yn cynllunio twyll yn ei galon;
25
pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo, oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;
26
er iddo guddio'i gasineb rhagrith, datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.
27
Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo, a daw carreg yn l ar yr un sy'n ei threiglo.
28
Y mae tafod celwyddog yn casu purdeb, a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau