|
| 1 |
|
| Paid ag ymffrostio ynglu375?n ag yfory, oherwydd ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. |
|
| 2 |
|
| Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun; un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun. |
|
| 3 |
|
| Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm, ond y mae casineb y ffu373?l yn drymach na'r ddau. |
|
| 4 |
|
| Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant, ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen? |
|
| 5 |
|
| Y mae cerydd agored yn well na chariad a guddir. |
|
| 6 |
|
| Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll, ond cusanau gelyn yn dwyllodrus. |
|
| 7 |
|
| Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod ml, ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw. |
|
| 8 |
|
| Fel aderyn yn crwydro o'i nyth, felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin. |
|
| 9 |
|
| Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon, a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid. |
|
| 10 |
|
| Paid chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni, a phaid mynd i du375? dy frawd yn nydd dy adfyd. Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell. |
|
| 11 |
|
| Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon; yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu. |
|
| 12 |
|
| Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny. |
|
| 13 |
|
| Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr, a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn. |
|
| 14 |
|
| Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill llef uchel, ac yn codi'n fore i wneud hynny, yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio. |
|
| 15 |
|
| Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog, tebyg i hynny yw gwraig yn cecru; |
|
| 16 |
|
| y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt, neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law. |
|
| 17 |
|
| Y mae haearn yn hogi haearn, ac y mae pob un hogi meddwl ei gyfaill. |
|
| 18 |
|
| Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth, a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd. |
|
| 19 |
|
| Fel yr adlewyrchir wyneb mewn du373?r, felly y mae'r galon yn ddrych o'r unigolyn. |
|
| 20 |
|
| Ni ddigonir Sheol nac Abadon, ac ni ddiwellir llygaid neb ychwaith. |
|
| 21 |
|
| Y mae tawddlestr i'r arian, a ffwrnais i'r aur, felly y profir cymeriad gan ganmoliaeth. |
|
| 22 |
|
| Er iti bwyo'r ffl phestl mewn morter yn gymysg 'r grawn mn, eto ni elli yrru ei ffolineb allan ohono. |
|
| 23 |
|
| Gofala'n gyson am dy braidd, a rho sylw manwl i'r ddiadell; |
|
| 24 |
|
| oherwydd nid yw cyfoeth yn para am byth, na choron o genhedlaeth i genhedlaeth. |
|
| 25 |
|
| Ar l cario'r gwair, ac i'r adladd ymddangos, a chasglu gwair y mynydd, |
|
| 26 |
|
| yna cei ddillad o'r u373?yn, a phris y tir o'r bychod geifr, |
|
| 27 |
|
| a bydd digon o laeth geifr yn ymborth i ti a'th deulu, ac yn gynhaliaeth i'th forynion. |
|
|
|
|