|
| 1 |
|
| Nac ymffrostia o'r dydd yfory: canys ni wyddost beth a ddigwydd mewn diwrnod. |
|
| 2 |
|
| Canmoled arall dydi, ac nid dy enau dy hun; estron, ac nid dy wefusau dy hunan. |
|
| 3 |
|
| Trom yw y garreg, a phwysfawr yw y tywod: ond digofaint y ffôl sydd drymach na hwy ill dau. |
|
| 4 |
|
| Creulon yw llid, fel llifddwfr yw digofaint; a phwy a ddichon sefyll o flaen cenfigen? |
|
| 5 |
|
| Gwell yw cerydd cyhoedd na chariad cuddiedig. |
|
| 6 |
|
| Ffyddlon yw archollion y caredig: ond cusanau y digasog ydynt dwyllodrus. |
|
| 7 |
|
| Y dyn llawn a fathra y dil mêl: ond i'r newynog pob peth chwerw sydd felys. |
|
| 8 |
|
| Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun, sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth. |
|
| 9 |
|
| Olew ac arogl‐darth a lawenycha y galon; felly y gwna mwynder cyfaill trwy gyngor ffyddlon. |
|
| 10 |
|
| Nac ymado â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy dad; ac na ddos i dŷ dy frawd yn amser dy orthrymder: canys gwell yw cymydog yn agos na brawd ymhell. |
|
| 11 |
|
| Bydd ddoeth, fy mab, a llawenycha fy nghalon; fel y gallwyf ateb i'r neb a'm gwaradwyddo. |
|
| 12 |
|
| Y call a wêl y drwg yn dyfod, ac a ymgûdd: ond yr angall a ânt rhagddynt, ac a gosbir. |
|
| 13 |
|
| Cymer wisg yr hwn a fachnïo dros y dieithr; a chymer wystl ganddo dros y ddieithr. |
|
| 14 |
|
| Y neb a fendithio ei gydymaith â llef uchel y bore pan gyfodo, cyfrifir hyn yn felltith iddo. |
|
| 15 |
|
| Defni parhaus ar ddiwrnod glawog, a gwraig anynad, cyffelyb ydynt. |
|
| 16 |
|
| Y mae yr hwn a'i cuddio hi, megis yn cuddio y gwynt, ac olew ei ddeheulaw, yr hwn a ymddengys. |
|
| 17 |
|
| Haearn a hoga haearn: felly gŵr a hoga wyneb ei gyfaill. |
|
| 18 |
|
| Y neb a gadwo ei ffigysbren, a fwyty o'i ffrwyth ef: a'r neb a wasanaetho ei feistr, a ddaw i anrhydedd. |
|
| 19 |
|
| Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb: felly y mae calon dyn i ddyn. |
|
| 20 |
|
| Ni lenwir uffern na distryw: felly ni lenwir llygaid dyn. |
|
| 21 |
|
| Fel y tawddlestr i'r arian, a'r ffwrnais i'r aur: felly y mae gŵr i'w glod. |
|
| 22 |
|
| Er i ti bwyo ffôl mewn morter â phestl ymhlith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef. |
|
| 23 |
|
| Edrych yn ddyfal ar dy anifeiliaid, a gofala am dy braidd. |
|
| 24 |
|
| Canys cyfoeth ni phery byth: ac a bery y goron o genhedlaeth i genhedlaeth? |
|
| 25 |
|
| Y gwair a flaendardda, a'r glaswellt a ymddengys, a llysiau y mynyddoedd a gesglir. |
|
| 26 |
|
| Yr ŵyn a'th ddillada, ac o'r geifr y cei werth tir. |
|
| 27 |
|
| Hefyd ti a gei ddigon o laeth geifr yn fwyd i ti, yn fwyd i'th dylwyth, ac yn gynhaliaeth i'th lancesau. |
|
|
|
|