|
| 1 |
|
| Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid, ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew. |
|
| 2 |
|
| Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr, ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn. |
|
| 3 |
|
| Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion, fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch. |
|
| 4 |
|
| Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus, ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn. |
|
| 5 |
|
| Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan. |
|
| 6 |
|
| Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir, na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd. |
|
| 7 |
|
| Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu 'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni. |
|
| 8 |
|
| Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd. |
|
| 9 |
|
| Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith, bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra. |
|
| 10 |
|
| Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth; ond caiff y cywir etifeddiaeth dda. |
|
| 11 |
|
| Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun, ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo. |
|
| 12 |
|
| Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr; ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio. |
|
| 13 |
|
| Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau, ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd. |
|
| 14 |
|
| Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad; ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr. |
|
| 15 |
|
| Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro, felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd. |
|
| 16 |
|
| Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster, ond y mae'r un sy'n casu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau. |
|
| 17 |
|
| Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed yn ffoi i gyfeiriad y pwll; peidied neb 'i atal. |
|
| 18 |
|
| Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel, ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll. |
|
| 19 |
|
| Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi. |
|
| 20 |
|
| Caiff y ffyddlon lawer o fendithion, ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb. |
|
| 21 |
|
| Nid yw'n iawn dangos ffafr, ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara. |
|
| 22 |
|
| Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth; nid yw'n ystyried y daw arno angen. |
|
| 23 |
|
| Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n gwenieithio. |
|
| 24 |
|
| Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam, ac yn dweud nad yw'n drosedd, yn gymar i'r un sy'n dinistrio. |
|
| 25 |
|
| Y mae'r trachwantus yn creu cynnen, ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder. |
|
| 26 |
|
| Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb. |
|
| 27 |
|
| Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid. |
|
| 28 |
|
| Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio, ond ar l eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau. |
|
|
|
|