|
| 1 |
|
| Mae pobl ddrwg yn ffoi pan does neb ar eu holau, ond mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn hyderus fel llew ifanc. |
|
| 2 |
|
| Pan mae gwlad mewn anhrefn mae pawb eisiau arwain, ond mae'n cymryd arweinydd doeth a deallus i'w gwneud hi'n sefydlog. |
|
| 3 |
|
| Mae person tlawd sy'n gormesu pobl eraill sydd mewn angen fel storm o law trwm sy'n dinistrio cnydau. |
|
| 4 |
|
| Mae'r rhai sy'n gwrthod Cyfraith Dduw yn canmol pobl ddrwg, ond mae'r rhai sy'n cadw'r Gyfraith yn eu gwrthwynebu nhw. |
|
| 5 |
|
| Dydy pobl ddrwg ddim yn gwybod beth ydy cyfiawnder, ond mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei ddeall i'r dim. |
|
| 6 |
|
| Mae'n well bod yn dlawd ac yn onest nac yn gyfoethog ac yn ddauwynebog. |
|
| 7 |
|
| Mae plentyn doeth yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddysgu iddo ond mae'r un sy'n cymysgu gyda criw da i ddim yn codi cywilydd ar ei dad. |
|
| 8 |
|
| Mae yna un sy'n gwneud arian drwy godi llogau uchel, ond bydd ei gyfoeth yn mynd i rywun sy'n garedig at y tlawd. |
|
| 9 |
|
| Mae'n gas gan Dduw wrando ar weddi rhywun sy'n gwrthod gwrando ar y Gyfraith. |
|
| 10 |
|
| Bydd rhywun sy'n camarwain pobl dda, a'u cael nhw i wneud drwg yn syrthio i mewn i'w drap ei hun, ond bydd pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n onest. |
|
| 11 |
|
| Mae person cyfoethog yn meddwl ei fod e'n glyfar, ond mae'r person tlawd sy'n gall yn gweld trwyddo. |
|
| 12 |
|
| Pan mae pobl dda yn ennill, mae dathlu mawr, ond pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio. |
|
| 13 |
|
| Fydd y sawl sy'n cuddio'i feiau ddim yn llwyddo; yr un sy'n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy'n cael trugaredd. |
|
| 14 |
|
| Mae'r un sy'n dangos gofal wedi ei fendithio'n fawr, ond mae person penstiff yn syrthio i bob math o drafferthion. |
|
| 15 |
|
| Mae llywodraethwr drwg dros bobl dlawd fel llew yn rhuo neu arth yn prowla. |
|
| 16 |
|
| Arweinydd heb sens sy'n gormesu o hyd; yr un sy'n gwrthod elwa ar draul eraill sy'n cael byw'n hir. |
|
| 17 |
|
| Bydd yr un sy'n euog o lofruddio yn ffoi hyd ei fedd — ddylai neb ei helpu. |
|
| 18 |
|
| Bydd yr un sy'n byw'n onest yn saff, ond bydd person dauwynebog yn siŵr o syrthio. |
|
| 19 |
|
| Bydd y sawl sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond yr un sy'n gwastraffu amser yn cael dim ond tlodi. |
|
| 20 |
|
| Bydd y person cydwybodol yn cael ei fendithio'n fawr, ond yr un sydd ond eisiau gwneud arian sydyn yn cael ei gosbi. |
|
| 21 |
|
| Dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth da; ond mae rhai pobl yn fodlon gwneud drwg am damaid o fara! |
|
| 22 |
|
| Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn, heb sylweddoli mai colled sy'n dod iddo. |
|
| 23 |
|
| Mae'r un sy'n barod i roi gair o gerydd yn cael mwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n seboni. |
|
| 24 |
|
| Mae'r un sy'n dwyn oddi ar ei dad a'i fam, ac yna'n dweud, “wnes i ddim byd o'i le,” yn ffrind i lofrudd. |
|
| 25 |
|
| Mae person hunanol yn creu helynt, ond mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyddo. |
|
| 26 |
|
| Mae trystio'r hunan yn beth twp i'w wneud, ond mae'r sawl sy'n ymddwyn yn gall yn saff. |
|
| 27 |
|
| Fydd dim angen ar y sawl sy'n rhoi i'r tlodion, ond mae'r un sy'n cau ei lygaid i'r angen yn cael ei felltithio go iawn. |
|
| 28 |
|
| Pan mae pobl ddrwg yn dod i rym, mae pawb yn cuddio, ond pan maen nhw'n syrthio, bydd y rhai cyfiawn yn llwyddo. |
|
|
|
|