|
| 1 |
|
| Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynych yn cael ei ddryllio'n sydyn heb fodd i'w adfer. |
|
| 2 |
|
| Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl, ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan. |
|
| 3 |
|
| Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo. |
|
| 4 |
|
| Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder, ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa. |
|
| 5 |
|
| Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaill yn taenu rhwyd i'w draed. |
|
| 6 |
|
| Rhwydir y drygionus gan gamwedd, ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen. |
|
| 7 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion, ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall. |
|
| 8 |
|
| Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas, ond y mae'r doethion yn tawelu dicter. |
|
| 9 |
|
| Os un doeth i gyfraith ffu373?l, bydd y ffu373?l yn cythruddo ac yn gwawdio, ac ni cheir llonyddwch. |
|
| 10 |
|
| Y mae rhai gwaedlyd yn casu'r un cywir, ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd. |
|
| 11 |
|
| Y mae'r ffu373?l yn arllwys ei holl ddig, ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth. |
|
| 12 |
|
| Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd, bydd ei holl weision yn ddrygionus. |
|
| 13 |
|
| Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr: yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau. |
|
| 14 |
|
| Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir, yna fe sefydlir ei orsedd am byth. |
|
| 15 |
|
| Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb, ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam. |
|
| 16 |
|
| Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu, ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp. |
|
| 17 |
|
| Disgybla dy fab, a daw chysur iti, a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd. |
|
| 18 |
|
| Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwl; ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith. |
|
| 19 |
|
| Nid geiriau yn unig y disgyblir gwas; er iddo ddeall, nid yw'n ymateb. |
|
| 20 |
|
| Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad; y mae mwy o obaith i'r ffu373?l nag iddo ef. |
|
| 21 |
|
| Wrth faldodi gwas o'i lencyndod, bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd. |
|
| 22 |
|
| Codi cynnen y mae rhywun cas, ac un dicllon yn ychwanegu camwedd. |
|
| 23 |
|
| Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng, ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd. |
|
| 24 |
|
| Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu lleidr; y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim. |
|
| 25 |
|
| Magl yw ofni pobl, ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD. |
|
| 26 |
|
| Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr, ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder. |
|
| 27 |
|
| Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn, a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd. |
|
|
|
|