|
| 1 |
|
| Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo: |
|
| 2 |
|
| Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth? Beth yw hyn, mab fy addunedau? |
|
| 3 |
|
| Paid threulio dy nerth gyda merched, na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd. |
|
| 4 |
|
| Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel, nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin, ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn, |
|
| 5 |
|
| rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd, a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd. |
|
| 6 |
|
| Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod, a gwin i'r chwerw ei ysbryd; |
|
| 7 |
|
| cnt hwy yfed ac anghofio'u tlodi, a pheidio chofio'u gofid byth mwy. |
|
| 8 |
|
| Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. |
|
| 9 |
|
| Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd. |
|
| 10 |
|
| Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau. |
|
| 11 |
|
| Y mae calon ei gu373?r yn ymddiried ynddi, ac ni fydd pall ar ei henillion. |
|
| 12 |
|
| Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled, a hynny ar hyd ei hoes. |
|
| 13 |
|
| Y mae'n ceisio gwln a llin, ac yn cael pleser o weithio 'i dwylo. |
|
| 14 |
|
| Y mae, fel llongau masnachwr, yn dwyn ei hymborth o bell. |
|
| 15 |
|
| Y mae'n codi cyn iddi ddyddio, yn darparu bwyd i'w thylwyth, ac yn trefnu gorchwylion ei morynion. |
|
| 16 |
|
| Ar l ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes, ac yn plannu gwinllan 'i henillion. |
|
| 17 |
|
| Y mae'n gwregysu ei llwynau nerth, ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau. |
|
| 18 |
|
| Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol, ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos. |
|
| 19 |
|
| Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail, a'i dwylo'n gafael yn y werthyd. |
|
| 20 |
|
| Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus, a'i dwylo i'r tlawd. |
|
| 21 |
|
| Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira, oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd. |
|
| 22 |
|
| Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun, ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor. |
|
| 23 |
|
| Y mae ei gu373?r yn adnabyddus yn y pyrth, pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal. |
|
| 24 |
|
| Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu, ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr. |
|
| 25 |
|
| Y mae wedi ei gwisgo nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin. |
|
| 26 |
|
| Y mae'n siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. |
|
| 27 |
|
| Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod. |
|
| 28 |
|
| Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio; a bydd ei gu373?r yn ei chanmol: |
|
| 29 |
|
| "Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus, ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd." |
|
| 30 |
|
| Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod, ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol. |
|
| 31 |
|
| Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth. |
|
|
|
|