|
| 1 |
|
| Geiriau Lemwel frenin; y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. |
|
| 2 |
|
| Pa beth, fy mab? pa beth, mab fy nghroth? ie, pa beth, mab fy addunedau? |
|
| 3 |
|
| Na ddyro i wragedd dy nerth; na'th ffyrdd i'r hyn a ddifetha frenhinoedd. |
|
| 4 |
|
| Nid gweddaidd i frenhinoedd, O Lemwel, nid gweddaidd i frenhinoedd yfed gwin; nac i benaduriaid ddiod gadarn: |
|
| 5 |
|
| Rhag iddynt yfed, ac ebargofi y ddeddf; a newidio barn yr un o'r rhai gorthrymedig. |
|
| 6 |
|
| Rhoddwch ddiod gadarn i'r neb sydd ar ddarfod amdano; a gwin i'r rhai trwm eu calon. |
|
| 7 |
|
| Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy. |
|
| 8 |
|
| Agor dy enau dros y mud, yn achos holl blant dinistr. |
|
| 9 |
|
| Agor dy enau, barn yn gyfiawn; a dadlau dros y tlawd a'r anghenus. |
|
| 10 |
|
| Pwy a fedr gael gwraig rinweddol? gwerthfawrocach yw hi na'r carbuncl. |
|
| 11 |
|
| Calon ei gŵr a ymddiried ynddi, fel na bydd arno eisiau anrhaith. |
|
| 12 |
|
| Hi a wna iddo les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. |
|
| 13 |
|
| Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylo yn ewyllysgar. |
|
| 14 |
|
| Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell. |
|
| 15 |
|
| Hi a gyfyd hefyd liw nos, ac a rydd fwyd i'w thylwyth, a'u dogn i'w llancesau. |
|
| 16 |
|
| Hi a feddwl am faes, ac a'i prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan. |
|
| 17 |
|
| Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau. |
|
| 18 |
|
| Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos. |
|
| 19 |
|
| Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a'i llaw a ddeil y cogail. |
|
| 20 |
|
| Hi a egyr ei llaw i'r tlawd, ac a estyn ei dwylo i'r anghenus. |
|
| 21 |
|
| Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad. |
|
| 22 |
|
| Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor. |
|
| 23 |
|
| Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad. |
|
| 24 |
|
| Hi a wna liain main, ac a'i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr. |
|
| 25 |
|
| Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd. |
|
| 26 |
|
| Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi. |
|
| 27 |
|
| Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd. |
|
| 28 |
|
| Ei phlant a godant, ac a'i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a'i canmol hi: |
|
| 29 |
|
| Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll. |
|
| 30 |
|
| Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr ARGLWYDD, hi a gaiff glod. |
|
| 31 |
|
| Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth. |
|
|
|
|