|
| 1 |
|
| Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad, ac ystyriwch i chwi ddysgu deall. |
|
| 2 |
|
| Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da; peidiwch gwrthod fy nysgeidiaeth. |
|
| 3 |
|
| Bm innau hefyd yn fab i'm tad, yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam. |
|
| 4 |
|
| Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf, "Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau; cadw fy ngorchmynion iti gael byw. |
|
| 5 |
|
| Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau. Cais ddoethineb, cais ddeall; |
|
| 6 |
|
| paid 'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw; cr hi, a bydd yn d'amddiffyn. |
|
| 7 |
|
| Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb; 'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall. |
|
| 8 |
|
| Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi; fe'th anrhydedda, os cofleidi hi. |
|
| 9 |
|
| Gesyd dorch brydferth ar dy ben, a rhoi coron anrhydedd iti." |
|
| 10 |
|
| Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau, ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd. |
|
| 11 |
|
| Hyfforddais di yn ffordd doethineb; dysgais iti gerdded llwybrau union. |
|
| 12 |
|
| Pan gerddi, ni rwystrir dy gam, a phan redi, ni fyddi'n baglu. |
|
| 13 |
|
| Glu375?n wrth addysg, a hynny'n ddi-ollwng; dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd. |
|
| 14 |
|
| Paid dilyn llwybr y drygionus, na cherdded ffordd pobl ddrwg; |
|
| 15 |
|
| gochel hi, paid 'i throedio, tro oddi wrthi a dos yn dy flaen. |
|
| 16 |
|
| Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg; collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun. |
|
| 17 |
|
| Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll, ac yn yfed gwin gormes. |
|
| 18 |
|
| Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr, sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd. |
|
| 19 |
|
| Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew; ni wyddant beth sy'n eu baglu. |
|
| 20 |
|
| Fy mab, rho sylw i'm geiriau, a gwrando ar fy ymadrodd. |
|
| 21 |
|
| Paid 'u gollwng o'th olwg; cadw hwy yn dy feddwl; |
|
| 22 |
|
| oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael, ac yn iechyd i'w holl gorff. |
|
| 23 |
|
| Yn fwy na dim, edrych ar l dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd. |
|
| 24 |
|
| Gofala osgoi geiriau twyllodrus, a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar. |
|
| 25 |
|
| Cadw dy lygaid yn unionsyth, ac edrych yn syth o'th flaen. |
|
| 26 |
|
| Rho sylw i lwybr dy droed, i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel. |
|
| 27 |
|
| Paid throi i'r dde nac i'r chwith, a chadw dy droed rhag y drwg. |
|
|
|
|