|
| 1 |
|
| Blant, clywch beth mae'ch tad yn ei ddysgu i chi. Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth. |
|
| 2 |
|
| Dw i'n dysgu beth sy'n dda, felly peidiwch troi cefn ar beth dw i'n ddweud. |
|
| 3 |
|
| Roeddwn i'n blentyn ar un adeg, yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam. |
|
| 4 |
|
| Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i, “Dal dy afael yn yr hyn dw i'n ddweud; Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da. |
|
| 5 |
|
| Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn; paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i'n ddweud. |
|
| 6 |
|
| Paid troi cefn ar ddoethineb — bydd hi'n dy warchod di; os gwnei di ei charu, bydd hi'n dy amddiffyn di. |
|
| 7 |
|
| Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall! Petai'n costio popeth sydd gen ti — mynna ddeall. |
|
| 8 |
|
| Os byddi'n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi'n dy helpu di; cofleidia hi, a bydd hi'n dod ag anrhydedd i ti. |
|
| 9 |
|
| Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben; coron fydd yn dy anrhydeddu di.” |
|
| 10 |
|
| Fy mab, gwrando'n ofalus ar beth dw i'n ddweud, a byddi di'n cael byw yn hir. |
|
| 11 |
|
| Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth; ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn. |
|
| 12 |
|
| Byddi'n cerdded yn dy flaen yn hyderus; byddi'n rhedeg heb faglu o gwbl. |
|
| 13 |
|
| Dal yn dynn yn beth wyt ti'n ddysgu, paid gollwng gafael. Cadw'r cwbl yn saff — mae'n rhoi bywyd i ti! |
|
| 14 |
|
| Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg; paid mynd yr un ffordd â nhw. |
|
| 15 |
|
| Cadw draw! Paid mynd yn agos! Tro rownd a mynd i'r cyfeiriad arall! |
|
| 16 |
|
| Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg. Maen nhw'n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun. |
|
| 17 |
|
| Drygioni ydy'r bara sy'n eu cadw nhw'n fyw, A thrais ydy'r gwin maen nhw'n ei yfed! |
|
| 18 |
|
| Mae llwybr y rhai sy'n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae'n ganol dydd. |
|
| 19 |
|
| Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll; dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw. |
|
| 20 |
|
| Fy mab, gwrando ar beth dw i'n ddweud; gwrando'n astud ar fy ngeiriau. |
|
| 21 |
|
| Paid colli golwg arnyn nhw; cadw nhw'n agos at dy galon. |
|
| 22 |
|
| Maen nhw'n rhoi bywyd i'r un sy'n eu cael, a iechyd i'r corff cyfan. |
|
| 23 |
|
| Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall, achos dyna ffynhonnell dy fywyd. |
|
| 24 |
|
| Paid dweud celwydd; paid dweud pethau i dwyllo pobl. |
|
| 25 |
|
| Edrych yn syth o dy flaen, cadw dy olwg ar ble wyt ti'n mynd. |
|
| 26 |
|
| Gwylia'r ffordd rwyt ti'n mynd, a byddi'n gwneud y peth iawn. |
|
| 27 |
|
| Paid crwydro i'r dde na'r chwith; cadw draw oddi wrth beth sy'n ddrwg. |
|
|
|
|