|
| 1 |
|
| Fy mab, rho sylw i'm doethineb, a gwrando ar fy neall, |
|
| 2 |
|
| er mwyn iti ddal ar synnwyr ac i'th wefusau ddiogelu deall. |
|
| 3 |
|
| Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu ml, a'i geiriau yn llyfnach nag olew, |
|
| 4 |
|
| ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod, yn llymach na chleddyf daufiniog. |
|
| 5 |
|
| Prysura ei thraed at farwolaeth, ac arwain ei chamre i Sheol. |
|
| 6 |
|
| Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd; y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid. |
|
| 7 |
|
| Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a pheidiwch throi oddi wrth fy ymadroddion. |
|
| 8 |
|
| Cadw draw oddi wrth ei ffordd; paid mynd yn agos at ddrws ei thu375?; |
|
| 9 |
|
| rhag iti roi dy enw da i eraill a'th urddas i estroniaid, |
|
| 10 |
|
| a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoeth ac i'th lafur fynd i du375? estron; |
|
| 11 |
|
| rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd, pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod, |
|
| 12 |
|
| a dweud, "Pam y bu imi gasu disgyblaeth, ac anwybyddu cerydd? |
|
| 13 |
|
| Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon, nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai. |
|
| 14 |
|
| Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwg yng ngolwg y gynulleidfa gyfan." |
|
| 15 |
|
| Yf ddu373?r o'th bydew dy hun, du373?r sy'n tarddu o'th ffynnon di. |
|
| 16 |
|
| Paid gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd, na'th ffrydiau du373?r i'r stryd. |
|
| 17 |
|
| Byddant i ti dy hun yn unig, ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas. |
|
| 18 |
|
| Bydded bendith ar dy ffynnon, a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid, |
|
| 19 |
|
| ewig hoffus, iyrches ddymunol; bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser, a chymer bleser o'i chariad yn gyson. |
|
| 20 |
|
| Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr, a chofleidio estrones? |
|
| 21 |
|
| Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un, ac yn chwilio ei holl lwybrau. |
|
| 22 |
|
| Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun, ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod; |
|
| 23 |
|
| bydd farw o ddiffyg disgyblaeth, ar goll oherwydd ei ffolineb mawr. |
|
|
|
|