|
| 1 |
|
| Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog, neu fynd yn feichiau i ddieithryn, |
|
| 2 |
|
| a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun, a'th ddal gan eiriau dy enau, |
|
| 3 |
|
| yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun: gan dy fod yn llaw dy gymydog, dos ar frys ac ymbil 'th gymydog; |
|
| 4 |
|
| paid rhoi cwsg i'th lygaid na gorffwys i'th amrannau; |
|
| 5 |
|
| achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr, neu aderyn o law yr adarwr. |
|
| 6 |
|
| Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn, a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth. |
|
| 7 |
|
| Er nad oes ganddo arweinydd na rheolwr na llywodraethwr, |
|
| 8 |
|
| y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf, yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf. |
|
| 9 |
|
| O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian? Pa bryd y codi o'th gwsg? |
|
| 10 |
|
| Ychydig gwsg, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i orffwys, |
|
| 11 |
|
| a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon, ac angen fel gu373?r arfog. |
|
| 12 |
|
| Un dieflig, un drwg, sy'n taenu geiriau dichellgar, |
|
| 13 |
|
| yn wincio 'i lygad, yn pwnio 'i droed, ac yn gwneud arwyddion 'i fysedd. |
|
| 14 |
|
| Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad, a chreu cynnen. |
|
| 15 |
|
| Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth; fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed. |
|
| 16 |
|
| Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD, saith peth sy'n ffiaidd ganddo: |
|
| 17 |
|
| llygaid balch, tafod ffals, dwylo'n tywallt gwaed dieuog, |
|
| 18 |
|
| calon yn cynllunio oferedd, traed yn prysuro i wneud drwg, |
|
| 19 |
|
| gau dyst yn dweud celwydd, ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau. |
|
| 20 |
|
| Fy mab, cadw orchymyn dy dad; paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam; |
|
| 21 |
|
| clyma hwy'n wastad yn dy galon, rhwym hwy am dy wddf. |
|
| 22 |
|
| Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei, a gwylio drosot pan orffwysi, ac ymddiddan thi pan gyfodi. |
|
| 23 |
|
| Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni, a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd, |
|
| 24 |
|
| ac yn dy gadw rhag gwraig cymydog a rhag gweniaith y ddynes estron. |
|
| 25 |
|
| Paid chwennych ei phrydferthwch, a phaid gadael i'w chiledrychiad dy ddal; |
|
| 26 |
|
| oherwydd gellir cael putain am bris torth, ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach. |
|
| 27 |
|
| A all dyn gofleidio tn yn ei fynwes heb losgi ei ddillad? |
|
| 28 |
|
| A all dyn gerdded ar farwor heb losgi ei draed? |
|
| 29 |
|
| Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog; ni all unrhyw un gyffwrdd hi heb gosb. |
|
| 30 |
|
| Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyn i foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog? |
|
| 31 |
|
| Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n l seithwaith, a rhoi'r cyfan sydd ganddo. |
|
| 32 |
|
| Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr, ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny; |
|
| 33 |
|
| caiff niwed ac amarch, ac ni ddilir ei warth. |
|
| 34 |
|
| Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gu373?r priod, ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial; |
|
| 35 |
|
| ni fyn dderbyn iawndal, ac nis bodlonir, er cymaint a roddi. |
|
|
|
|