|
| 1 |
|
| Fy mab, cadw fy ngeiriau, a thrysora fy ngorchmynion. |
|
| 2 |
|
| Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw, a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad. |
|
| 3 |
|
| Rhwym hwy am dy fysedd, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. |
|
| 4 |
|
| Dywed wrth ddoethineb, "Fy chwaer wyt ti", a chyfarch ddeall fel cr, |
|
| 5 |
|
| i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr, a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus. |
|
| 6 |
|
| Yr oeddwn yn ffenestr fy nhu375?, yn edrych allan trwy'r dellt |
|
| 7 |
|
| ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion; a gwelais yn eu plith un disynnwyr |
|
| 8 |
|
| yn mynd heibio i gornel y stryd, ac yn troi i gyfeiriad ei thu375? |
|
| 9 |
|
| yn y cyfnos, yn hwyr y dydd, pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu. |
|
| 10 |
|
| Daeth dynes i'w gyfarfod, wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw |
|
| 11 |
|
| un benchwiban a gwamal, nad yw byth yn aros gartref, |
|
| 12 |
|
| weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwr, yn llercian ym mhob cornel |
|
| 13 |
|
| y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu, ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho, |
|
| 14 |
|
| "Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau, ac rwyf newydd gyflawni f'addewid; |
|
| 15 |
|
| am hynny y deuthum allan i'th gyfarfod ac i chwilio amdanat, a dyma fi wedi dy gael. |
|
| 16 |
|
| Taenais ar fy ngwely gwrlid o frethyn lliwgar yr Aifft; |
|
| 17 |
|
| ac rwyf wedi persawru fy ngwely myrr, aloes a sinamon. |
|
| 18 |
|
| Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore, a chael mwynhad wrth garu. |
|
| 19 |
|
| Oherwydd nid yw'r gu373?r gartref; fe aeth ar daith bell. |
|
| 20 |
|
| Cymerodd god o arian gydag ef, ac ni fydd yn l nes y bydd y lleuad yn llawn." |
|
| 21 |
|
| Y mae'n ei ddenu 'i pherswd, ac yn ei hudo 'i geiriau gwenieithus. |
|
| 22 |
|
| Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi, fel ych yn mynd i'r lladd-dy, fel carw yn neidio i'r rhwyd |
|
| 23 |
|
| cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw, fel aderyn yn hedeg yn syth i'r fagl heb wybod fod ei einioes mewn perygl. |
|
| 24 |
|
| Yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a rhowch sylw i'm geiriau. |
|
| 25 |
|
| Paid gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd, a phaid chrwydro i'w llwybrau; |
|
| 26 |
|
| oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain, a lladdwyd nifer mawr ganddi. |
|
| 27 |
|
| Ffordd i Sheol yw ei thu375?, yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth. |
|
|
|
|