×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Diarhebion 9

1
Y mae doethineb wedi adeiladu ei thu375?, ac yn naddu ei saith golofn;
2
y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin a hulio ei bwrdd.
3
Anfonodd allan ei llancesau, ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4
"Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5
"Dewch, bwytewch gyda mi, ac yfwch y gwin a gymysgais.
6
Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall."
7
Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr, a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8
Paid cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasu; cerydda'r doeth, ac fe'th gr di.
9
Rho gyngor i'r doeth, ac fe 'n ddoethach; dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall.
11
Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau, ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
12
Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw; ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.
13
Y mae gwraig ffl yn benchwiban, yn ddiddeall, heb wybod dim.
14
Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thu375?, ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,
15
yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:
16
"Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
17
"Y mae du373?r lladrad yn felys, a bara wedi ei ddwyn yn flasus."
18
Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno, ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau