Tyn fi ar dy l, gad inni redeg gyda'n gilydd; cymer fi i'th ystafell, O frenin. Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot, a chanmol dy gariad yn fwy na gwin; mor briodol yw iddynt dy garu!
Peidiwch rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw, oherwydd i'r haul fy llosgi. Bu meibion fy mam yn gas wrthyf, a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd; ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.
Fy nghariad, dywed wrthyf ymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd, ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd. Pam y byddaf fel un yn crwydro wrth ymyl praidd dy gyfeillion?