Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Bob nos ar fy ngwely ceisiais fy nghariad; fe'i ceisiais, ond heb ei gael. |
| 2 |
| Mi godais, a mynd o amgylch y dref, trwy'r heolydd a'r strydoedd; chwiliais am fy nghariad; chwilio, ond heb ei gael. |
| 3 |
| Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod, wrth iddynt fynd o amgylch y dref, a gofynnais, "A welsoch chwi fy nghariad?" |
| 4 |
| Ymhen ychydig wedi imi eu gadael, fe gefais fy nghariad; gafaelais ynddo, a gwrthod ei ollwng nes ei ddwyn i du375? fy mam, i ystafell yr un a esgorodd arnaf. |
| 5 |
| Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch deffro na tharfu f'anwylyd nes y bydd hi'n dymuno. |
| 6 |
| Beth yw hyn sy'n dod o'r anialwch, fel colofn o fwg yn llawn arogl o fyrr a thus, ac o bowdrau marsiandwr? |
| 7 |
| Dyma gerbyd Solomon; o'i gylch y mae trigain o ddynion cryfion, y rhai cryfaf yn Israel, |
| 8 |
| pob un yn cario cleddyf, ac wedi ei hyfforddi i ryfela, pob un 'i gleddyf ar ei glun, yn barod ar gyfer dychryn yn y nos. |
| 9 |
| Gwnaeth y Brenin Solomon iddo'i hun gadair gludo o goed Lebanon, |
| 10 |
| gyda'i pholion o arian, ei chefn o aur, ei sedd o borffor, a'r tu mewn iddi yn lledr o waith merched Jerwsalem. |
| 11 |
| Dewch allan, ferched Seion, edrychwch ar y Brenin Solomon yn gwisgo'r goron a roddodd ei fam iddo ar ddydd ei briodas, y dydd pan oedd yn llawen. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/songofsolomon/003.mp3
8
3