Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| O ti, y decaf o ferched, ple'r aeth dy gariad? Pa ffordd yr aeth dy gariad, inni chwilio amdano gyda thi? |
| 2 |
| Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd, i'r gwelyau perlysiau, i ofalu am y gerddi, ac i gasglu'r lilau. |
| 3 |
| Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad, ac yntau'n eiddof finnau; y mae'n bugeilio ymysg y lilau. |
| 4 |
| Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd, yn hardd fel Jerwsalem, mor urddasol llu banerog. |
| 5 |
| Tro dy lygaid oddi wrthyf, y maent yn fy nghyffroi; y mae dy wallt fel diadell o eifr yn dod i lawr o Fynydd Gilead. |
| 6 |
| Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid yn dod i fyny o'r olchfa, y cwbl ohonynt yn efeilliaid, heb un yn amddifad. |
| 7 |
| Y tu l i'th orchudd y mae dy arlais fel darn o bomgranad. |
| 8 |
| Er bod trigain o freninesau a phedwar ugain o ordderchwragedd, a llancesau na ellir eu rhifo, |
| 9 |
| y mae fy ngholomen, yr un berffaith, ar ei phen ei hun, unig blentyn ei mam, y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni. Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd, ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori. |
| 10 |
| Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr, yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul, yn urddasol fel llu banerog? |
| 11 |
| Euthum i lawr i'w ardd gnau i edrych ar ffrwythau'r dyffryn, a gweld a oedd y winwydden yn blaguro, a blodau ar y pomgranadau. |
| 12 |
| Ni wyddwn y cawn fy rhoi yng ngherbydau perthnasau'r tywysog. |
| 13 |
| Tyrd yn l, tyrd yn l, Sulames! Tyrd yn l, tyrd yn l, gad inni dy weld. O fel yr hoffwch edrych ar y Sulames yn dawnsio rhwng y rhengoedd! |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/songofsolomon/006.mp3
8
6