Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched? Ble'r aeth e? Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd. |
| 2 |
| Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd — i'w welyau o berlysiau. Mae wedi mynd i bori yn y gerddi, a chasglu'r lilïau. |
| 3 |
| Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad; mae e'n pori yng nghanol y lilïau. |
| 4 |
| F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa, ac mor hyfryd â Jerwsalem. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! |
| 5 |
| Paid edrych arna i — mae dy lygaid yn fy aflonyddu! Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr yn dod i lawr o fynydd Gilead. |
| 6 |
| Mae dy ddannedd yn wyn fel rhes o ddefaid newydd eu golchi. Maen nhw i gyd yn berffaith; does dim un ar goll. |
| 7 |
| Tu ôl i'r fêl mae dy fochau a'u gwrid fel pomgranadau. |
| 8 |
| Gallwn gael chwe deg brenhines, wyth deg o bartneriaid, a merched ifanc di-rif! |
| 9 |
| Ond mae hi'n unigryw, fy ngholomen berffaith. Merch arbennig ei mam; hoff un yr un â'i cenhedlodd. Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld yn ei hedmygu; Mae pob brenhines a chariad yn canu am ei harddwch: |
| 10 |
| “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr? Pwy ydy hi? — mor hardd â'r lleuad llawn, mor bur â phelydrau'r haul. Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!” |
| 11 |
| Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau, i weld y tyfiant yn y dyffryn; i weld a oedd y winwydden wedi blaguro, a'r pomgranadau'n blodeuo. |
| 12 |
| Roeddwn wedi cynhyrfu'n lân. Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi, o ferch fy mhobl fonheddig. |
| 13 |
| Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith! Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti. Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith, fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll? |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/songofsolomon/006.mp3
8
6