Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau, O ferch y tywysog! Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau o waith crefftwr medrus. |
| 2 |
| Y mae dy fogail fel ffiol gron nad yw byth yn brin o win cymysg; y mae dy fol fel pentwr o wenith wedi ei amgylchynu gan lilau. |
| 3 |
| Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig. |
| 4 |
| Y mae dy wddf fel tu373?r ifori, a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon, ger mynedfa Bath-rabbim; y mae dy drwyn fel tu373?r Lebanon, sy'n edrych i gyfeiriad Damascus. |
| 5 |
| Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmel a gwallt dy ben fel porffor, a brenin wedi ei garcharu yn y plethi. |
| 6 |
| Mor brydferth, mor hardd wyt, fy anwylyd, y fwyaf dymunol. |
| 7 |
| Y mae dy gorff fel palmwydden, a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau. |
| 8 |
| Dywedais, "Dringaf y balmwydden, a gafael yn ei brigau." Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin, ac arogl dy anadl fel afalau, |
| 9 |
| a'th wefusau fel y gwin gorau yn llifo'n esmwyth mewn cariad, ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd. |
| 10 |
| Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad, ac yntau'n fy chwennych. |
| 11 |
| Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes, a threulio'r nos ymysg y llwyni henna. |
| 12 |
| Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd, i edrych a yw'r winwydden yn blaguro, a'i blodau yn agor, a'r pomgranadau yn blodeuo; yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat. |
| 13 |
| Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl; o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau, ffrwythau newydd a hen a gedwais i ti, fy nghariad. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/songofsolomon/007.mp3
8
7