Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd, o ferch fonheddig. Mae dy gluniau mor siapus — fel gemwaith gan grefftwr medrus. |
| 2 |
| Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron yn llawn o'r gwin cymysg gorau. Mae dy fol fel pentwr o wenith a chylch o lilïau o'i gwmpas. |
| 3 |
| Mae dy fronnau yn berffaith fel dwy gasél ifanc, efeilliaid. |
| 4 |
| Mae dy wddf fel tŵr o ifori, a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbon ger mynedfa Bath-rabbîm. Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus sy'n wynebu dinas Damascus. |
| 5 |
| Ti'n dal dy ben yn uchel fel Mynydd Carmel ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi. |
| 6 |
| O! rwyt mor hardd! Mor hyfryd! Ti'n fy hudo, fy nghariad! |
| 7 |
| Ti'n dal fel coeden balmwydd, a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys. |
| 8 |
| Dw i am ddod a dringo'r goeden a gafael yn ei ffrwythau. Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin, a'u sawr yn felys fel afalau. |
| 9 |
| Mae dy gusanau fel y gwin gorau yn llifo'n rhydd ar fy ngwefusau wrth i ni fynd i gysgu. |
| 10 |
| Fy nghariad piau fi, ac mae f'eisiau. |
| 11 |
| Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau; gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna. |
| 12 |
| Gad i ni godi'n gynnar a mynd lawr i'r gwinllannoedd, i weld os ydy'r winwydden wedi blaguro a'u blodau wedi agor; ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo — yno gwnaf roi fy hun i ti. |
| 13 |
| Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau yn llenwi'r awyr, a danteithion pleser wrth ein drysau — y cwbl dw i wedi ei gadw i'w rannu gyda ti fy nghariad. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/songofsolomon/007.mp3
8
7