i droi'r tlodion oddi wrth farn, ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau; i wneud gweddwon yn ysbail iddynt a'r rhai amddifad yn anrhaith.
Anfonaf hi yn erbyn cenedl annuwiol, a rhof orchymyn iddi yn erbyn pobl fy nicter, i gymryd ysbail ac i anrheithio, a'u mathru dan draed fel baw'r heolydd.
"Yn fy nerth fy hun y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb, pan oeddwn yn cynllunio. Symudais ffiniau cenhedloedd, ysbeiliais eu trysorau; fel tarw bwriais i lawr y trigolion.
Cefais hyd i gyfoeth y bobl fel nyth; ac fel y bydd dyn yn casglu wyau wedi eu gadael, felly y cesglais innau bob gwlad ynghyd; nid oedd adain yn symud na phig yn agor i glochdar."
A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr? A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn? Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio, neu ffon yn trin un nad yw'n bren!
Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhu375? Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.
Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: "Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y mr fel y cododd hi dros yr Aifft."